Yr Urdd am benodi swyddog ieuenctid yn ardal y 'steddfod

  • Cyhoeddwyd
Rhiannon Walker
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwirfoddolwyr yn yr ardal wedi bod yn gefnogol iawn medd Rhiannon Walker

Bydd swyddog ieuenctid rhan amser yn cael ei benodi gan yr Urdd yn ardal Brycheiniog a Maesyfed o fis Medi ymlaen ar ôl i'r cyngor sir roi arian i'r mudiad.

Yn ôl y Swyddog Datblygu mae'n newyddion positif.

"Byddan nhw yn gweithio tri diwrnod yr wythnos gyda fi, jest yn edrych ar ôl yr ysgolion uwchradd yn yr ardal," meddai Rhiannon Walker wrth Cymru Fyw.

"So mae hwnna yn ddatblygiad gwych arall i ni sy'n sicrhau bod mwy o weithgareddau yn parhau i ddigwydd ar ôl yr eisteddfod."

Mae'r Urdd hefyd wedi cadarnhau'r newyddion a'r cyngor lleol wedi dweud eu bod wedi rhoi nawdd i'r mudiad gynnig gwasanaeth ieuenctid yn y Gymraeg yn y sir.

Cyn i Ms Walker gael ei phenodi ddwy flynedd yn ôl doedd dim swyddog llawn amser ar gyfer yr ardal ac roedd swyddog Maldwyn yn gyfrifol am ardal Brycheiniog a Maesyfed gyfan. Ond ar ôl cyhoeddi lleoliad Eisteddfod yr Urdd cafodd y penderfyniad ei wneud i gyflogi swyddog datblygu.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r tro cyntaf i'r wŷl ddod yn ôl i Frycheiniog a Maesyfed ers 1978 ac roedd cannoedd yn yr ŵyl gyhoeddi'r llynedd

Roedd yn rhaid i'r fenyw 28 oed "ddechre o scratch" er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan yng ngweithgareddau'r Urdd.

Erbyn hyn mae tri chylch wedi eu sefydlu - un yn Ystradgynlais, un yn Aberhonddu a'r llall yn Llanfair-ym-Muallt - ac mae'r tri'n cystadlu, gyda'r rhai llwyddiannus yn mynd ymlaen i gynrychioli'r rhanbarth.

"Mae hynny wedi denu lot mwy o gystadlu achos mae'r ysgolion wedyn sy'n mynd trwodd i'r rhanbarth, maen nhw'n hapus wedyn i symud ymlaen achos bod nhw wedi cael llwyddiant yn eu cylch nhw," meddai.

Ers dechrau ar y gwaith mae'r aelodaeth wedi tyfu ac mae'r ffigyrau yn dangos mai dyma'r nifer uchaf ar record yn yr ardal. 520 o aelodau oedd yn y sir yn 2015/16 ac erbyn hyn 1,196 sydd wedi ymaelodi.

"1996 o'dd y data olaf o'n i yn gallu tynnu lan ar y system ac odd e y mwyaf ers hynny sy'n wych."

Mae'n credu bod y cynnydd yn ymwneud â'r ffaith fod trigolion yn ymwybodol y gallan nhw gysylltu â rhywun er mwyn gofyn am help.

"Maen nhw'n gwybod at bwy i droi os maen nhw ddim yn siŵr o beth i neud, a hefyd mae gyda fi fwy o amser nag oedd gyda swyddog oedd yn edrych ar ôl Powys gyfan i fynd rownd yr ysgolion fel bod nhw yn dod i adnabod fi."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r eisteddfod yn cael ei chynnal eleni yn Llanelwedd ar faes y Sioe Fawr

Ac mae'r Cymry di-Gymraeg hefyd wedi cael eu denu i gymryd rhan yng ngweithgareddau'r Urdd.

"Bob mis mae ysgol fach newydd yn ymuno, ysgol newydd yn cysylltu," meddai.

"Falle rhywbeth bach yw e. Fi'n mynd mewn gyda Mr Urdd i wneud gwasanaeth ond mae'r ysgolion yna sydd wedi gofyn am rywbeth bach falle, blwyddyn yma neu flwyddyn diwetha, yn gweud blwyddyn nesaf nawr byddan nhw yn cymryd rhan mewn mwy o weithgareddau."

Mwy o glybiau ieuenctid

Roedd gwneud yn siŵr fod pobl yn gwybod nad dim ond Eisteddfod yr Urdd oedd y mudiad yn bwysig i Rhiannon Walker ac mae wedi canolbwyntio ar hybu gweithgareddau eraill hefyd.

Mae Clwb Ieuenctid teithiol wedi ei sefydlu ar gyfer yr ardal sy'n cyfarfod yn ystod oriau cinio neu ar ôl ysgol ac mae yna uchelgais i ehangu'r ddarpariaeth.

"Y gobaith mis Medi yw byddwn ni yn dechrau clwb pur Cymraeg ieuenctid yn Aberhonddu, clwb yn Ystradgynlais a bod y clwb ieuenctid teithiol yn mynd o gwmpas yr ysgolion."

Dyw hi ddim yn pryderu y bydd nifer yr aelodaeth yn lleihau ar ôl yr eisteddfod gan ddweud bod y plant a'r bobl ifanc wedi gallu manteision ar ystod o weithgareddau, ac mae hefyd yn ffyddiog y bydd y brwdfrydedd ym Mrycheiniog a Maesyfed hefyd yn parhau.

Gwaddol yr Eisteddfod

"O'n i yn siarad cwpl o wythnosau yn ôl gyda phwyllgor apêl Llanfair-ym-Muallt.

"O'n nhw yn gweud bod siopau lleol, bod nhw wedi cael cymaint o werth mas o ddigwyddiadau Cymraeg yn arwain lan i'r 'steddfod, bod nhw mynd i barhau nawr ar ôl y steddfod gyda Clwb Gwawr.

"Byddan nhw yn cyfarfod a chreu digwyddiadau i godi arian, a sicrhau bod dim jest y plant yn yr ardal yn cael cyfleoedd Cymraeg, ond bod rhieni nhw yn gallu cymryd rhan mewn digwyddiadau a bod plant yn clywed yr iaith yn cael ei siarad."