Abertawe'n croesawu sêr cerddorol i'r Penwythnos Mwyaf
- Cyhoeddwyd
Mae Abertawe yn paratoi i groesawu Ed Sheeran a Taylor Swift i'r ddinas ar gyfer Penwythnos Mwyaf BBC Radio 1.
Bydd Parc Singleton yn cynnal dau ddiwrnod o gerddoriaeth byw, fydd hefyd yn cynnwys Sam Smith, Jess Glynne a Liam Payne.
Fe werthwyd y tocynnau ar gyfer y Penwythnos Mwyaf mewn 35 munud, ac mae disgwyl i dros 52,000 o bobl fynd i'r digwyddiad.
Cafodd pobl oedd yn byw yn ardal Abertawe flaenoriaeth wrth brynu tocynnau, gyda rhai hefyd wedi'u cadw ar gyfer pobl o rannau eraill yn ne Cymru.
Perfformwyr Cymreig
Bydd llwyfan hefyd i fandiau a pherfformwyr Cymreig, tra bod digwyddiadau ymylol wedi'u cynnal yn Abertawe dros y dyddiau diwethaf.
Cyflwynodd Scott Mills ei sioe Radio 1 o Theatr y Grand yn Abertawe fel rhan o'r gweithgareddau ymylol, ac roedd ymhlith y sêr a fu'n rhoi cyngor i fyfyrwyr sydd wedi mynychu digwyddiadau Academi Radio 1.
Dywedodd Scott Mills: "Unrhyw eiliad nawr, bydd Radio 1 i gyd dod yma a chymryd drosodd. Dwi mor gyffrous am y peth.
"Dwi'n meddwl mai dyma'r line-up orau ry'n ni wedi cael. Dydych chi byth yn cael y sêr yma i gyd ar gyfer un digwyddiad, fel Sam Smith, Sean Mendez, Ed Sheeran, Taylor Swift.
"Fel arfer rydyn ni'n llwyddo i gael un ohonynt, ac mae cael gymaint â hynny yn anhygoel. Dydy Abertawe ddim yn mynd i wybod beth sydd wedi digwydd yma."
Dyma pwy fydd yn perfformio yn y Penwythnos Mawr:
Dydd Sadwrn 26 Mai:
Prif Lwyfan:
Sam Smith, Ed Sheeran, Craig David, Jess Glynne, George Ezra, Years & Years, Liam Payne, Clean Bandit, Anne-Marie
Llwyfan Arall Radio 1:
Bastille, Wolf Alice, Chvrches, Mo, Mabel, Not3s, Sigrid, Jorja Smith, Steel Banglez
Dydd Sul 27 Mai:
Prif Lwyfan:
Florence and the Machine, Taylor Swift, Thirty Seconds to Mars, Rita Ora, Camila Cabello, Shawn Mendes, Niall Horan, Jason Derulo, Demi Lovato
Llwyfan Arall Radio 1:
James Bay, Pan!c at the Disco, Christine and the Queens, J Hus, Jessie Ware, Stefflon Don, Hailee Steinfeld, Jax Jones, Tom Walker
Bandiau Cymreig ar Lwyfan BBC Music Introducing:
Astroid Boys, Band Pres Llareggub, Boy Azooga, Chroma, Mellt, Rachel K Collier, Serol Serol, Trampolene
Mae Abertawe yn cynnal un o bedair cyngerdd mewn dinasoedd y DU fel rhan o'r Penwythnos Mwyaf.
Er mai Abertawe yw'r ffocws ar gyfer Radio 1, mae digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal yn Belfast, Coventry a Perth.
Bydd pob digwyddiad yn cael ei ddarlledu ar y teledu, radio a gwasanaethau ar-lein y BBC dros y penwythnos.
Bydd perfformwyr Cymreig, gan gynnwys Band Pres Llareggub, Chroma, Mellt a Serol Serol ymysg eraill yn ymddangos ar lwyfan BBC Music Introducing yn Abertawe.
Dywedodd drymiwr Band Pres Llarregub, Gethin Evans: "Mae'n anhygoel cael rhannu llwyfan gydag artistiaid fel Ed Sheeran a bod bandiau Cymraeg yn cael yr un sylw ag artistiaid rhyngwladol.
"Mae'n llwyfan arbennig i ni allu dangos ein hunain i gynulleidfa hollol newydd," meddai.
'Peth da i Abertawe'
Mae perfformwyr Cymreig eraill wedi cael cyfle i berfformio yn ystod yr wythnos o weithgareddau ymylol, gan gynnwys y canwr Ben Luc.
Dywedodd: "Rydw i wedi bod yn perfformio yn Abertawe am bump neu chwe blynedd, ac rydw i'n astudio yma ar hyn o bryd.
"Mae Abertawe'n lle gwych i fod yn berfformiwr. Ar lawr gwlad mae cymaint o gerddoriaeth o ansawdd da yn dod allan o Abertawe.
"Mae hwn yn beth da iawn i artistiaid fel fi, ac i Abertawe yn ei gyfanrwydd, gan ei fod yn dangos y pethau da sy'n digwydd yma, a'r sin creadigol yn Abertawe."
Bydd nifer o'r ffyrdd o amgylch Parc Singleton ar gau ar gyfer y Penwythnos Mwyaf.
I gefnogwyr sy'n teithio mewn car, bydd Cyngor Abertawe yn gweithredu gwasanaeth parcio a theithio, dolen allanol o'i safle ar Fabian Way, tra bydd rhai meysydd parcio ar gael yn agosach at y digwyddiad.
Bydd pob eiliad o berfformiadau'r Penwythnos Mwyaf yn cael ei darlledu'n fyw ar BBC iPlayer, tra bydd digwyddiadau hefyd yn cael eu darlledu ar wasanaethau teledu a radio y BBC.
Mae manylion llawn am sut i wrando a gwylio Penwythnos Mwyaf Radio 1 i gyd ar dudalen arbennig ar y wefan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2018