Rheolau pysgota am eog: Dyfodol clybiau 'yn y fantol'

  • Cyhoeddwyd
EogFfynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r rheolau newydd ddod i rym yn 2019

Mae pysgotwyr eog yn poeni mai dyma fydd y tymor olaf y byddan nhw'n cael cadw pysgod i'w bwyta ar ôl eu dal.

Mae Llywodraeth Cymru'n ystyried cynigion ar hyn o bryd gan Gyfoeth Naturiol Cymru, sydd am weld pob eog sy'n cael ei ddal yn cael ei roi yn ôl yn y dŵr oherwydd prinder pysgod.

Maen nhw am weld y rheolau newydd yn dod i rym y tymor nesaf.

Ond mae clybiau pysgota'n ofni y bydd pobl yn rhoi'r gorau i bysgota, gan ddadlau mai trefn o ddychwelyd pysgod yn wirfoddol fyddai orau.

Mae sicrhau dyfodol yr eog yn gwestiwn sydd wedi bod ar feddyliau pysgotwyr a swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru ers blynyddoedd ond mae 'na anghytuno ar y ffordd ymlaen.

Yn ogystal â'r rheolau newydd posib i ryddhau pob eog sy'n cael ei ddal, mae Cyfoeth Naturiol Cymru am weld cyfyngiadau ar y math o abwyd sy'n cael ei ddefnyddio.

Ond mae Bryn Evans o Gymdeithas Enweirio Dyffryn Ogwen yn poeni y gallai'r newidiadau beryglu dyfodol clybiau pysgota.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Bryn Evans fod Cymdeithas Enweiro Dyffryn Ogwen yn annog aelodau ers peth amser i roi canran o'r pysgod yn ôl i'r afon

"'Den ni'n poeni am ddyfodol y clwb oherwydd mae 'na reolau newydd yn debygol o ddod i mewn a dwi'n gweld rhai o'n haelodau ni yn penderfynu peidio 'sgota," meddai.

"Bydd ein haelodaeth ni yn mynd i lawr a dyfodol y clwb yn y fantol.

"Trefn wirfoddol ddyle fod. 'Den ni eisioes wedi bod yn annog ein haelodau ers rhai blynyddoedd na fedran nhw ddim cario 'mlaen i gadw pob peth maen nhw'n ei ddal, annog nhw i roi canran o'r pysgod yn ôl, ac mae'r rhan fwyaf i weld yn gwrando arnom ni a dipyn go lew yn rhoi eog yn ôl."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru bod stociau eog yn parhau i fod mewn sefyllfa beryglus a bod eu cynigion, er yn amhoblogaidd â physgotwyr, yn hanfodol ar gyfer goroesiad y pysgod eiconig hyn yn y dyfodol.

Ychwanegodd y llefarydd bod "diddordeb sylweddol" a "nifer fawr o ymatebion" wedi bod i'r ymgynghoriad ynglŷn â'r is-ddeddfau newydd, ac y bydd yr Ysgrifennydd Amgylchedd, Lesley Griffiths, "yn gwneud cyhoeddiad ar ôl ystyried y cyfan yn ofalus".