Cynhadledd yn yr hydref i drafod system ethol Llafur

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Carwyn Jones yn camu o'i rôl fel arweinydd Llafur Cymru cyn diwedd y flwyddyn

Mae Llafur Cymru wedi penderfynu cynnal cynhadledd arbennig yn yr hydref i benderfynu sut fydd eu harweinydd nesaf yn cael eu dewis.

Fe wnaeth penaethiaid y blaid gyfarfod ddydd Sadwrn i drafod y mater, a hynny wedi i'r Prif Weinidog Carwyn Jones gyhoeddi y bydd yn gadael cyn diwedd y flwyddyn.

Dan y system bresennol gallai ei olynydd gael ei ddewis heb ennill mwyafrif o bleidleisiau aelodau'r blaid.

Mae ymgyrchwyr wedi dweud bod angen newid rheolau'r ras, fel bod pob pleidlais yn cael ei chyfrif yn gyfartal.

'Adolygiad democrataidd'

Dan y coleg etholiadol presennol mae'r etholwyr wedi'u rhannu'n dair adran - ACau ac ASau, aelodau cyffredin, ac undebau a grwpiau eraill - gyda phob adran yn cael traean o'r bleidlais.

Yn ddiweddar cafodd Carolyn Harris ei hethol yn ddirprwy arweinydd Llafur Cymru dan y system honno, er i fwy o aelodau cyffredin bleidleisio dros ei gwrthwynebydd.

Fe wnaeth y canlyniad hwnnw sbarduno cefnogwyr system un-aelod-un-bleidlais (OMOV), sydd bellach yn galw am newid y rheolau cyn i Mr Jones adael.

Maen nhw'n dadlau fod system OMOV yn fwy democrataidd, ond mae'r rheiny sydd o blaid y system bresennol yn dweud ei fod yn adlewyrchu cyswllt hanesyddol y blaid â'r undebau llafur.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer o aelodau'r blaid yn anhapus â'r ffordd y cafodd Carolyn Harris ei hethol yn ddirprwy

Yn dilyn y penderfyniad dywedodd Carwyn Jones: "Beth roeddwn i eisiau ei wneud oedd sicrhau bod proses yn ei le i gael trafodaeth lawn ar beth ddylai'r system fod, cyn i'r frwydr arweinyddol ddigwydd.

"Mae'n fater nawr i'r blaid a'r aelodaeth benderfynu beth fydd yn digwydd."

Wrth adael y cyfarfod dywedodd Ms Harris nad oedd hi "erioed" wedi mai system y coleg etholiadol presennol oedd y "ffordd orau".

Ond ychwanegodd: "Dwi wedi bod yn bendant a byddaf yn parhau'n bendant fy marn mai'r unig ffordd ymlaen yw cynnwys yr undebau, a does dim siawns y bydden i'n cytuno i unrhyw beth sydd ddim yn cynnwys yr undebau."

Bydd y gynhadledd arbennig yn cael ei chynnal ar 15 Medi i drafod unrhyw newidiadau posib i'r rheolau, cyn y bleidlais arweinyddol yn yr hydref.

Cyn hynny fe fydd cyn-AS Torfaen, yr Arglwydd Murphy, yn arwain adolygiad o drefniadau presennol y blaid.

Dadansoddiad Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Arwyn Jones:

Fy nealltwriaeth i yw bod Carwyn Jones wedi gobeithio'n wreiddiol na fyddai'r adolygiad i system ethol arweinwyr y blaid yn adrodd yn ôl nes ar ôl i'w olynydd ef gael eu dewis.

Yn hynny o beth mae wedi newid ei feddwl felly, o bosib oherwydd pryderon y gallai'r arweinydd newydd wynebu gwrthwynebiad i'r ffordd y cawson nhw'r swydd.

Mae'n ymddangos bod cefnogaeth eang i'r syniad y dylai ACau ac ASau golli eu statws arbennig a chael eu hystyried fel aelodau cyffredin pan mae'n dod at ethol arweinydd.

Yr Aelodau Cynulliad sydd eisoes wrth gwrs yn cael dewis pwy sy'n sefyll yn y lle cyntaf.

Ond fe fydd torri'r cysylltiad gyda'r undebau, a'u cyfran nhw o'r coleg etholiadol, ddim mor hawdd.

Mae Mark Drakeford, yr unig AC hyd yn hyn fydd yn bendant yn rhan o'r ras, yw un o'r ffigyrau blaenllaw yn y blaid sydd o blaid OMOV.

Dywedodd Debbie Wilcox, pennaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac arweinydd Cyngor Casnewydd, ei bod hi hefyd wedi newid ei meddwl yn sgil ethol Ms Harris.

Mae Vaughan Gething, sydd wedi datgan bwriad i sefyll ond heb gael digon o enwebiadau eto, wedi dweud fodd bynnag nad yw am i unrhyw system newydd "wanhau llais yr undebau llafur, y blaid gydweithredol a grwpiau perthnasol eraill".

Mae undebau Unsain a'r GMB wedi galw am leihau faint o ddylanwad sydd gan ACau ac ASau dros ethol yr arweinydd nesaf.

Cafodd system OMOV ei ddefnyddio yn y ddau etholiad i ddewis Jeremy Corbyn fel arweinydd y blaid ar draws y DU.