Mynd â'r iaith ar daith i'r ysgolion
- Cyhoeddwyd
Mae dwy ddynes o Wynedd ar daith o gwmpas ysgolion uwchradd y sir, yn ceisio gwneud pobl ifanc yn ymwybodol o hanes yr iaith Gymraeg a'i phwysigrwydd hi.
Carys Lake ydy cydlynydd strategaeth iaith uwchradd Cyngor Gwynedd, ac mae Karen Owen yn newyddiadurwr ac yn fardd.
Trwy gynnal sgyrsiau gydag amrywiaeth o ddisgyblion, rhwng 11 a 18 oed, mae hanes, y defnydd o iaith a sut i gryfhau sefyllfa'r Gymraeg yn cael eu trafod.
A'r ddwy bellach hanner ffordd trwy'r daith, fe gawson ni sgwrs gyda nhw am yr hyn y maen nhw'n gobeithio ei gyflawni yn sir Gymreiciaf Cymru…
CL: Mae hi mor, mor bwysig bod ein plant a'n pobl ifanc yn gwybod am hanes Cymru. O wybod yr hanes, maen nhw'n magu ymwybyddiaeth o hunaniaeth. Ac o'r ymwybyddiaeth hwnnw fe dŷf gobaith. A gobaith, wedyn, yn esgor ar hyder i ddefnyddio'r Gymraeg gyda balchder.
KO: Peth arall sy'n bwysig, dwi'n meddwl, ydi ein bod ni'n cael sgwrs efo'r disgyblion, nid pregethu na darlithio na thrio deud wrthyn nhw pam y mae'n rhaid iddyn nhw siarad Cymraeg.
Nid athrawes ydw i, ond rhywun sy'n gwneud bywoliaeth trwy ddefnyddio iaith, a dwi hefyd wedi gweld dipyn o'r byd a mynd â'r Gymraeg efo fi dramor.
CL: Mae'r ymateb yr ydan ni wedi'i gael gan y bobl ifanc wrth fynd o ysgol i ysgol fel hyn yn hynod galonogol.
Mae ganddyn nhw ddiddordeb, maen nhw isio gwybod mwy am hanes eu gwlad a'u hiaith.
KO: Mae hi mor hawdd, yn y byd aml-gyfrwng ydan ni'n byw ynddo fo heddiw, i bobl ifanc deimlo fod yr iaith Gymraeg yn fach ac yn dda i ddim.
Ac weithiau mi fedra' i weld sut allai rhai ieithioedd mawr wneud i ni deimlo yn hen ffasiwn ac yn amherthnasol, yn enwedig gan ein bod ni'n medru Saesneg ac mai honno ydi'r iaith fawr o ran technoleg ac adloniant… Y peth lleiaf fedrwn ni wneud ydi rhoi'r arfogaeth i'n pobl ifanc i allu sefyll i fyny dros eu diwylliant a thros eu hiaith.
CL: Fe ddaeth y syniad am drefnu taith fel hyn ar ôl sylw ges i gan fachgen 13 oed, wrth i mi ei holi am yr hyn roedden nhw'n ei ddathlu o ran Cymreictod yn eu hysgolion yn ystod y flwyddyn, a'r ateb ges i ganddo oedd nad oeddan nhw'n gwybod fawr ddim am hanes arwyr Cymru, ac mai dim ond dathlu Dydd Gŵyl Dewi oeddan nhw'n ei neud.
KO: Dwi'n hollol agored i syniadau o bob math, ond does gen i ddim ofn dadl chwaith… ac mae hi'n bwysig fod pobl ifanc yn teimlo y medran nhw wrando ac ystyried yr holl ddadleuon, achos yn aml iawn, dyna pryd y maen nhw'n dysgu sut i amddiffyn eu hiaith.
Defnyddio'r ffeithiau a gweld pam mae'r Gymraeg yn berthnasol, ac yn un o ieithoedd eu byd nhw heddiw. Ac, os fedran ni wneud yr iaith yn berthnasol i hanes eu hardaloedd hefyd, mae'n ychwanegu at y teimlad fod yr iaith yn perthyn iddyn nhw.
CL: Mae Karen yn mynd â'r plant ar daith drwy hanes datblygiad yr iaith, a hynny drwy sgwrs ddifyr. Mae geiriau fel perthyn, balchder, etifeddiaeth, treftadaeth yn eiriau sy'n cael eu trosglwyddo ganddi drwy straeon a delweddau, sy'n hynod bwysig.
KO: Cofiwch, mae angen bod yn barod i herio pobl ifanc hefyd - dwi eisioes wedi cael un hogyn blwyddyn 9 yn gofyn wrtha' i: "Sut ydan ni i fod i ddyblu nifer y bobl sy'n siarad Cymraeg erbyn 2050, a phobl de Cymru i gyd yn siarad Saesneg?"
Mi oedd yn rhaid cywiro'r camargraff ysgubol honno - dydi hynny jyst ddim yn wir, o ran hanes, ystadegau na thwf yr iaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf… ac mae hi mor bwysig dweud wrth ddisgyblion ffodus Gwynedd, yn eu moethusrwydd ieithyddol, fod yna arwyr yn y de sydd wedi cwffio am bob un hawl i ddefnyddio'r iaith.
Dydi plant y gogledd, weithau, jyst ddim yn sylweddoli mor lwcus ydyn nhw o'u geni.
CL: Mae gwir angen trosglwyddo hanes Cymru i'n plant. Dysgu'r Gymraeg mewn cyd-destun. Mae angen lledaenu'r daith yma drwy Gymru gyfan yn fy marn i.
KO: Dwi'n meddwl mai'r prif beth sy'n bwysig i bobl ifanc ei sylweddoli ydi fod iaith yn fwy na geiriau - mae'n wleidyddiaeth, mae'n ffeit, mae'n broses, mae'n rhywbeth sy'n newid o hyd ac o hyd, fel y mae agweddau pobl tuag ati hi.
Ond ers bron i ddwy fil o flynyddoedd, mae hi wedi dal ei thir… mae hi wedi colli tir hefyd, cofiwch, ond mae hi'n union fel ras gyfnewid, ac mae'r amser yn dod i bob cenhedlaeth gymryd y baton, a gwneud eu rhan nhw yn yr hanes.