Gwrthod talu treth cyngor yn Llanelli yn dilyn pla pryfed

  • Cyhoeddwyd
pryfed
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth un o'r trigolion lleol, Judith Turnell, ddod â bag o bryfed gyda hi i'r cyfarfod cyhoeddus ddechrau'r mis

Bydd rhai o drigolion Llanelli yn gwrthod talu treth cyngor mewn ymateb i'r pla o bryfed sydd wedi effeithio'r dre dros yr wythnosau diwethaf, yn ôl adroddiadau.

Mae'r cyngor sir yn dweud eu bod wedi darganfod tarddle'r clêr mewn safle ailgylchu yn ardal Glan-y-môr ac mae'r ardal honno bellach wedi cael ei thrin.

Mae'r mater bellach yn nwylo Cyfoeth Naturiol Cymru.

Bydd trigolion lleol yn trafod ymateb y cyngor ynghyd â phroblemau eraill yn ymwneud â sbwriel a thipio anghyfreithlon mewn cyfarfod nos Lun.

Dywedodd Amanda Carter o Glan-y-môr eu bod yn "poeni fod y pla am ddychwelyd gyda'r tywydd poeth".

Yn ôl Ms Carter mae rhai trigolion lleol yn dweud eu bod heb dalu eu treth cyngor y mis hwn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pla wedi effeithio ar drigolion yn ardal Glan-y-Môr

Yn ôl Sion Davies, cynghorydd tref Ceidwadol yn ward Elli: "Ni'n gweld lot o fly tipping a phobl sydd ddim yn gofalu am yr ardal.

"Yn anffodus, ni'n gweld lot o broblemau. Mae lot yng nghanol y dref ac mewn parciau - pobl sydd yn yfed ac yn taflu poteli a chaniau. Lleiafrif yw e ond mae'n creu problem i bawb."

Dywedodd John Jones sydd yn cynrychioli ardal Glan-y-môr: "Mae e wedi gwella llawer, wrth i'r tywydd oeri. Mae cyfarfod heno i weld a ydy pobl yn hapus neu beidio."

Mae'n cydnabod fod rhai pobl yn esgeulus wrth waredu sbwriel.

"Mae llawer yn gadael gwastraff yn y lonydd cefn," meddai, "ac mae'n denu llygod a chadnoid a phopeth. Y trwbwl yw mae pobl yn gadael bwyd yn y bagiau duon."

Fe fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yng Nghlwb Chwaraeon Glan-y-môr am 19:00.