Gwerth £28,000 o gostau cyfreithiol i ymosodwr Finsbury
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Gaerdydd yrrodd fan i mewn i dorf o Fwslimiaid ger mosg yn Llundain wedi defnyddio gwerth £28,000 o gymorth cyfreithiol.
Fe wnaeth Darren Osborne, 48, yrru'r fan tuag at bobl oedd yn sefyll tu allan i fosg yng ngogledd y ddinas mis Mehefin y llynedd.
Yn ôl Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol, gall unigolion sy'n hawlio cymorth cyfreithiol orfod cyfrannu at y gost - yn dibynnu ar eu hamgylchiadau,
Dangosodd cais rhyddid gwybodaeth fod costau Osborne wedi cyrraedd cyfanswm o £28,407.03 ar hyd yr achos.
Cafodd Osborne ei ddedfrydu i o leiaf 43 mlynedd dan glo cyn y bydd modd ystyried ei ryddhau.
Tarodd y fan yn erbyn Makram Ali, 51, fu farw yn y digwyddiad, yn ogystal â naw o bobl eraill gafodd eu hanafu.
Mae'r costau hyd yma yn gymysgedd o werth £691.24 o gostau cyfreithwyr yn swyddfa'r heddlu, gwerth £26,948.99 am fargyfreithwyr a £766.80 o gostau cyffredinol eraill.
Dydi costau cyfreithwyr ar gyfer yr achos naw diwrnod o hyd heb gael eu hawlio eto, sy'n golygu y gall y ffigwr terfynol fod yn uwch.
Bydd munud o dawelwch yn cael ei gynnal ar safle'r ymosodiad ar ddydd Mawrth i nodi blwyddyn ers y digwyddiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2017