Arbrawf ceffylau gwyllt er mwyn tyfu coed cynhenid

  • Cyhoeddwyd
Ceffylau gwyllt

Mae gwirfoddolwyr sy'n ceisio tyfu rhagor o goed cynhenid yn y canolbarth wedi dod â thri cheffyl gwyllt i'r ardal o Gaint er mwyn eu helpu gyda'r gwaith.

Mae gan brosiect Coetir Anian 350 acer o dir ger Machynlleth.

Maen nhw'n gobeithio yn y lle cyntaf y bydd y merlod 'konik' yn bwyta'r glaswellt garw ar yr ucheldir er mwyn creu amodau gwell ar gyfer coed cynhenid.

Fe allai hynny, ymhen amser, ganiatáu i ragor o greaduriaid gwyllt gael eu hail-gyflwyno i'r ardal.

Gwireddu gweledigaeth

Fe gymrodd dros naw awr i gludo'r ceffylau konik - dwy gaseg ac un staliwn - mewn lori o Gaint i'w cartref newydd ym Machynlleth.

Maen nhw'n ddisgynyddion o'r ceffyl gwyllt hynafol - y Tarpan - ac yn groesfrid gyda cheffyl Pwylaidd. Konik yw'r gair Pwylaidd am ferlen.

Maen nhw wedi ymuno â thair caseg arall sy'n byw ar y bryn er mis Ebrill, ac mae perchnogion y tir, yr elusen Coed Cadw, yn gobeithio y bydd y chwe cheffyl yn helpu gwireddu gweledigaeth y prosiect ar gyfer y tir.

Arbrawf yw'r cynllun, medd Rory Francis o'r elusen, yn y gobaith y bydd y ceffylau'n bwyta glaswellt y gweinydd, sy'n mygu mathau eraill o dyfiant yno.

"Tydy o ddim yn flasus i ddefaid neu i fridiau eraill ond mae'r ceffylau hyn yn licio fo," meddai.

"'Da ni eisiau gweld amrywiaeth, darnau o goetir trwchus, darnau o dir agored er mwyn creu'r amgylchiadau i amrywiaeth eang o fyd natur fydda yn tyfu yn fa'ma yn hanesyddol felly.

"'Da ni'n trio rhywbeth newydd, rhywbeth cyffrous."

Degawdau o drawsnewid

Pe byddai'r prosiect yn llwyddiannus, mae'r elusen yn dweud y gallai arwain at ailgyflwyno rhywogaethau fel y bele, y wiwer goch a'r gylfinir i'r ardal.

"Ma' 'na gymaint o fyd natur sy' 'di cael ei golli," meddai Mr Francis. "Os gallwn ni greu'r amgylchiadau cywir, wyrach gallwn ni ddenu rhai o'n nhw'n ôl."

Ar ran o dir y prosiect mae cyfuniad o goed ifanc a rhai wedi sefydlu, gan gynnwys coed bedw a derw.

Dywedodd Mr Francis mai'r "bwriad a'r gobaith... ydy creu darnau o goetir trwchus, darnau o dir agored, a'r peth gwych yw mae hynny yn dechrau digwydd yn fa'ma trwy ail-dyfiant naturiol".

Ychwanegodd y gallai gymryd "degawdau" i drawsnewid y tir "ond mi fydd o'n fwy diddorol ac yn fwy deniadol o ddigwydd yn naturiol".