Trafod ailagor ffynnon ddŵr yn Nolgellau
- Cyhoeddwyd
Mae cyngor tref yn ystyried agor hen ffynhonnau er mwyn gwasanaethu cerddwyr ac i geisio annog pobl i ddefnyddio llai o boteli plastig.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi byddai modd i gerddwyr ar Lwybr Arfordir Cymru gael ddŵr yfed am ddim.
Er nad yw tref Dolgellau yng Ngwynedd yn rhan o'r llwybr, mae cynghorwyr y dref yn awyddus i fod yn rhan o ymgyrch y llywodraeth.
Mae'r Cynghorydd Ywain Myfyr eisoes wedi trafod y syniad o ailagor ffynhonnau dŵr hanesyddol y dref ar gyfer defnydd y cyhoedd.
"Roedd 'na dipyn o ffynhonnau o gwmpas Dolgellau pan oeddwn i'n fengach,
"Efallai bod modd i ni ailwampio un ohonyn nhw a gadael i bobl gael dŵr am ddim?
"Mae'r dŵr yn bur, roeddem yn arfer byw ar y dŵr yma am nifer o flynyddoedd. Efallai na allwn fynd mor bell â rhai o'r trefi mawr a mynd yn 'ddi-blastig' ond fe allwn wneud cyfraniad bach," meddai.
Dywed Mr Myfyr y byddai'n fodlon glanhau a gwagio'r ffynnon os byddai'n cael yr hawl i wneud hynny.
Wrth i drefi a phentrefi cael eu hannog i ymuno ag ymgyrch y llywodraeth, bydd modd dod o hyd i'r lleoliadau llenwi dŵr ar fap fydd ar gael ar ap ffôn clyfar.
Dywedodd y Gweinidog Amgylcheddol, Hannah Blythyn fod plastig yn gwneud niwed "dinistriol" i fywyd môr.
"Cymru yw'r wlad gyntaf yn y byd i gael llwybr sy'n ymestyn ar hyd yr holl arfordir.
"Rydym fel llywodraeth yn edrych ymlaen at weithio gyda'r cymunedau i geisio lleihau'r defnydd o blastig," meddai.
Mae Cyngor Tref Dolgellau wedi cytuno i edrych i'r syniad a chysylltu gyda'r awdurdodau perthnasol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2018