Wood: 'Sylwadau amhriodol yn rhan o brofiad pob dynes'

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Leanne Wood bod yna 'lawer iawn o waith i'w wneud i newid y diwylliant'

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru fod pob un dynes mae hi'n ei hadnabod wedi cael profiad o ddynion yn gwneud sylwadau rhywiol nad oedden nhw eu heisiau.

Gwnaeth Leanne Wood ei sylwadau ddyddiau ar ôl i ymchwil gan BBC Cymru ddarganfod fod staff sy'n gweithio i Aelodau Cynulliad wedi gwneud dau honiad o ymosodiad rhyw yn erbyn aelodau di-enw o staff y BBC, ac un yn erbyn AC di-enw.

Dywedodd wrth raglen Sunday Politics Wales fod ymddygiad amhriodol yn rhemp o fewn cymdeithas yn gyffredinol, ac nid dim ond o fewn y byd gwleidyddol a'r cyfryngau.

"Mae'n digwydd trwy'r amser," meddai. "Mae pob dynes dwi'n nabod wedi gorfod delio gyda dynion yn gwneud sylwadau rhywiol nad oedd eu heisiau, mewn un ffurf neu'i gilydd ar ryw bwynt yn eu bywydau.

"Mae'n digwydd ym mhobman ac mae'n cael ei dderbyn mewn cymdeithas, dyna'r broblem. A dyna'r diwylliant sydd angen ei newid."

Dywedodd AC Rhondda ei bod yn croesawu newid i'r rheolau ynglŷn ag ymddygiad ACau, ond dywedodd bod angen gwneud mwy i fynd i'r afael â'r sefyllfa.

"Dim ond dechrau yw hyn. Mae 'na lawer iawn o waith i'w wneud i newid y diwylliant, i ddod i'r pwynt lle mae fy merch 13 oed a'i ffrindiau mewn sefyllfa lle nad ydyn nhw yn gorfod delio â'r math yma o ymddygiad."

Croesawu trafodaeth

Yn yr un cyfweliad - y cyntaf ers i aelodau Plaid Cymru mewn dwy etholaeth enwebu eu Haelodau Cynulliad i'w herio am yr arweinyddiaeth - fe ddywedodd Ms Wood y byddai'n croesawu her, gan ei fod yn "beth da i aelodau gael cyfle i adfywio'r arweinyddiaeth y blaid".

Dywedodd: "Rwyf wedi arwain Plaid Cymru am chwe blynedd nawr felly mae'n amser da, debyg, gan nad oes etholiaethau ar y gorwel, i gael y drafodaeth yma.

Disgrifiad o’r llun,

Mae canghennau lleol Plaid Cymru yn etholaethau Adam Price a Rhun ap Iorwerth wedi eu henwebu i herio am yr arweinyddiaeth

"Mi wn bod yna bobl o fewn y blaid sy'n meddwl y gallen ni fynd i gyfeiriad gwahanol, efallai, gan symud tua'r tir canol.

"Os oes unrhyw un sydd eisiau trafodaeth yna mae hynny'n iawn gyda mi, ond rydw i'n canolbwyntio ar yr hyn rydw i eisiau ei gyflawni - sef dod yn Brif Weinidog yn 2021".

Mae Ms Wood wedi cyhoeddi bwriad i gamu o'r neilltu fel arweinydd y blaid ar ôl etholiad 2021, os na fydd hi'n brif weinidog.

Bydd Sunday Politics Wales yn cael ei darlledu ar BBC One Wales am 11:00 fore Sul 23 Mehefin, a bydd y rhaglen hefyd ar gael ar BBC iPlayer.