Canolfan newydd i drafod moeseg rhoi organau

  • Cyhoeddwyd
Rhoi organauFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd Canolfan Moeseg a Rhoi Organau Bywyd yn cael ei lansio'n swyddogol ym Mhrifysgol Abertawe ddydd Iau.

Y gobaith yw y bydd y ganolfan yn ymgymryd â dadleuon moesegol byd-eang ym maes moeseg bywyd a rhoi organau, fydd yn llywio deddfwriaeth, polisïau, gweithdrefnau a chyfarwyddebau ar draws y byd.

Mae Cymru eisoes wedi cyflwyno trefn o ganiatâd tybiedig - sef bod person yn cydsynio i roi ei organau oni bai eu bod wedi dweud fel arall.

Bydd y lansiad yn cynnwys darlith gan yr Athro Ames Dhai, sefydlodd Ganolfan Fio-moesegol Steve Biko fyd-enwog yn Ne Affrica, yn ogystal â phanel yn cynnwys yr Athro Ceri Phillips, pennaeth Coleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd, yr Athro Roy Thomas o Arennau Cymru a Mark Drakeford AC.

'Cynnydd pwysig'

Dywedodd Mr Drakeford, fydd yn derbyn gwobr gan gleifion Arennau Cymru i gydnabod ei gyfraniad at roi organau: "Rydym wedi gwneud cynnydd pwysig ym maes rhoi organau yng Nghymru, ond mae pobl yn dal i farw yma yn aros am driniaeth a allai achub eu bywydau.

"Bydd gwaith y ganolfan newydd yma'n ein helpu i ddeall yr hyn y gallwn ei wneud i fynd â'r agenda yma ymhellach ymlaen, gan sicrhau bod Cymru'n parhau i arwain y ffordd mewn bio-moeseg a rhoi organau."

Ffynhonnell y llun, Image copyrightRICHARD CREASE/NHSBT

Ychwanegodd yr Athro Phillips: "Mae gan Gymru hanes balch o hyrwyddo'r angen am roi organau a chynhaliodd ddeialog a thrafodaeth o gyfrannau bio-moesegol mawr wrth ddod â deddfau newydd ar ganiatâd tybiedig yn 2013.

"Mae bioleg a moesoldeb bywyd yn bwnc sy'n gofyn am ymchwil ac addysgu pellach, a bydd y ganolfan yma'n darparu lle penodol i archwilio hynny.

"Mae gennym gynlluniau ar gyfer prosiectau rhyngwladol cyffrous a bydd gan y ganolfan rhagolwg lleol, cenedlaethol a rhyngwladol."

Ychwanegodd yr Athro Thomas: "Mae dadleuon bio-moesegol yn parhau i chwarae rhan bwysig o ddatblygiad meddygol yn ein byd sy'n parhau i newid.

"Mae gennym gynlluniau i gynnal symposiwm byd-eang ar fiomoeseg a chyflwyno organau ym mis Gorffennaf 2020 ac i groesawu arbenigwyr blaenllaw o bob cwr o'r byd i Abertawe i edrych ar drawsblannu pediatrig."