Cyhoeddi cyfleusterau niwclear gwerth £40m yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
TrawsfynyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Prydain a Chymru wedi cyhoeddi y bydd cyfleuster gwerth £40m yn cael ei ddatblygu yn y gogledd i gefnogi cynllunio technolegau niwclear blaengar.

Mae'r cyfleuster yn ychwanegol i gytundeb sector niwclear gwerth £200m Llywodraeth Prydain a fydd yn cael ei lansio yn Nhrawsfynydd.

Bydd y cytundeb hefyd yn gweld buddsoddiad mewn technoleg i ostwng costau uchel y sector a gostwng biliau ynni.

Dywedodd Ysgrifennydd Ynni Llywodraeth y DU, Greg Clark: "Mae'r cytundeb hwn yn nodi carreg filltir bwysig i'r llywodraeth a'r diwydiant i gydweithio er mwyn delifro strategaeth ddiwydiannol fodern, gyrru twf glân a sicrhau fod niwclear sifil yn parhau'n rhan bwysig o ynni'r DU yn y dyfodol."

'Dyfodol cyffrous'

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns fod gan Drawsfynydd "ddyfodol cyffrous fel safle posib ar gyfer cenhedlaeth newydd o adweithyddion bach".

"Mae Trawsfynydd yn barod i gael ei drawsnewid gydag ond ychydig o waith diweddaru ei angen i rwydwaith y grid.

"Mae e yn y lle iawn gyda'r bobl iawn a chysylltiadau i sefydliadau ymchwil academaidd blaenllaw o fewn y sector niwclear."

Disgrifiad,

Roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns yn bresennol yn y cyhoeddiad yn Nhrawsfynydd

Cafodd y cynlluniau eu croesawu gan Duncan Hawthorne o gwmni Horizon, sydd y tu ôl i gynlluniau Wylfa Newydd.

"Mae'n arwydd clir o sut y bydd y llywodraeth a'r diwydiant yn cydweithio er mwyn sicrhau fod niwclear yn parhau i chwarae rol allweddol wrth ddarparu ynni glan a diogel i'r DU, yn ogystal â dod â swyddi, sgiliau a buddsoddiad ar draws y wlad," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol y gallai'r datblygiad olygu fod Gogledd Cymru'n datblygu'n "glwstwr diwydiannol arloesol".

'Sicrhau cyflogaeth'

Ychwanegodd yr Aelod Seneddol lleol, Liz Saville Roberts bod y cyhoeddiad yn "gam cyntaf i'r cyfeiriad cywir".

"Dyma'r arwydd cyhoeddus cyntaf bod llywodraeth y DU yn barod i ystyried rôl barhaus ar gyfer Trawsfynydd mewn cynhyrchu ynni carbon isel, diogel," meddai.

"Byddwn yn annog y llywodraeth nawr i fabwysiadu dull clirio'r safle gan ragweld y bydd gan Drawsfynydd ddyfodol ynni unwaith eto.

"I siarad yn blaen, rwyf wedi gweld gormod o bobl ifanc uchelgeisiol sydd â chymwysterau da yn gadael yr ardal hon.

"Mae angen sicrhau cyflogaeth sgiliau uchel, ac i gynnal traddodiad cynhyrchu ynni ym Meirionnydd sydd wedi darparu gwaith i gymaint o bobl leol sy'n siarad Cymraeg, yma yng nghanol Eryri wledig."

Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Liz Saville Roberts yw y bydd y cyhoeddiad yn creu swyddi i "bobl ifanc uchelgeisiol"

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y cyhoeddiad yn gam sylweddol ymlaen ar gyfer y sector niwclear".

"Rydyn ni'n cydnabod potensial enfawr y sector i ddarparu twf economaidd a llewyrch i'n cymunedau," meddai.

"Mae'n bwysig nawr bod Llywodraeth y DU yn cefnogi'r gwaith rydyn ni wedi'i wneud a chyflawni'n llawn yr hyn maen nhw wedi'i addo heddiw."