Creu map i ddangos 'llwybr gwyrdd' y Sioe Frenhinol

  • Cyhoeddwyd
Sgrinlun o ap y Sioe Fawr
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y map hefyd i'w gael ar ap y Sioe Fawr, sydd ar gael i'w lawrlwytho am ddim

Mae map wedi cael ei chreu er mwyn dangos y "llwybr gwyrdd" newydd sydd wedi ei sefydlu er mwyn gwella diogelwch ymwelwyr yn ystod y Sioe Frenhinol eleni.

Bydd sawl mesur diogelwch a lles yn cael eu cyflwyno yn Llanfair-ym-Muallt yn ddiweddarach ym mis Gorffennaf.

Maen nhw wedi eu seilio ar argymhellion grŵp diogelwch, gafodd ei sefydlu yn dilyn marwolaeth ffermwr ifanc yno y llynedd.

Dyfarnodd crwner ym mis Ionawr fod James Corfield, 19, wedi marw trwy ddamwain, a'i fod fwy na thebyg wedi marw o sioc sydyn ar ôl mynd i ddŵr oer ar noson gynta'r sioe.

Yn ôl Cyngor Sir Powys, bydd arwyddion clir ar y llwybr o dref Llanfair-ym-Muallt i faes y Sioe Fawr, Fferm a Maes Gwersylla Penmaenau a Phentref Pobl Ifanc CFfi, gan ddefnyddio arwyddion mynegbost ac olion traed gwyrdd.

Bydd manylion y llwybr i'w gweld ar fap newydd ynghyd â gwybodaeth arall i ymwelwyr fydd ar gael ar ap y Sioe Fawr.

Bydd ffens newydd dros dro yn cael ei chodi rhwng y Gro a'r afon i helpu i wella diogelwch, a bydd system teledu cylch cyfyng gwell ar waith yn y dref yn ystod cyfnod y sioe.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Powys
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y logo yma'n ymddangos o amgylch, ac ar hyd, y llwybr

Mae'r cyngor wedi penderfynu y bydd corlan les yn cael ei hagor yn yr hen Ganolfan Croeso yn ystod y nos, a bydd Bugeiliaid Stryd yn gweithio yn y dref yn y dyddiau cyn wythnos y sioe a thrwy gydol pedwar diwrnod y digwyddiad.

Bydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru hefyd yn rhoi mwy o adnoddau gan gynnwys cerbyd ymateb brys 4x4.

Mae'r grŵp diogelwch, fu'n gyfrifol am edrych ar y trefniadau diogelwch a lles, yn cynnwys sefydliadau allweddol fel Cyngor Sir Powys, holl wasanaethau brys yr ardal, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Cyngor Tref Llanfair-ym-Muallt, Fferm Penmaenau, CFfI Cymru, trefnwyr y digwyddiad, cynghorwyr lleol a gwirfoddolwyr.