Ailagor mynwent Fictoraidd Wrecsam wedi gwariant £1.1m
- Cyhoeddwyd
Mae mynwent Wrecsam yn ailagor yn swyddogol ddydd Llun wedi iddi gael ei hatgyweirio'n sylweddol ar gost o £1.1m.
Mae'r safle saith hectar yn cynnwys 37,000 bedd.
Y cam nesaf fydd croniclo gwybodaeth am rai o'r bobl sydd wedi'u claddu yno.
Mae cynllunydd y fynwent, Yeo Strachan, am i'r fynwent fod yn barc a'i ddymuniad yw bod ymwelwyr yn cerdded o gwmpas yn edmygu'r cerfluniau crand a gafodd eu codi gan ddiwydianwyr cyfoethog.
Mae'r cofgolofnau mawr i'w gweld ym mhlotiau drutaf ym mlaen y fynwent.
Teuluoedd dosbarth canol sydd ynghanol y fynwent ac yn y cefn mae'r tlodion wedi'u claddu - yn aml yn ddigofnod.
Ddwy flynedd yn ôl cafodd Cyngor Wrecsam grant o £1.2m gan Gronfa Treftadaeth y Loteri er mwyn gwella cyflwr y safle rhestredig Gradd II.
Bellach mae gwaith wedi cael ei wneud ar y capeli, y gyfrinfa, y gatiau a'r rheiliau.
Cam nesaf y prosiect yw annog y gymuned i ymddiddori yn y fynwent ac eisoes mae swyddog datblygu wedi'i benodi i annog pobl i gasglu straeon am y rhai sydd wedi'u claddu yno.
Ymhlith y meirw mae teulu Dennis, pobl ddiwydiannol gyfoethog a oedd yn berchen ar lofa Gresffordd a dau filwr Pwylaidd a fu'n ymladd yn yr Ail Ryfel Byd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2015
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2014