Cynllun i ailagor Tŵr y Marcwis ar Ynys Môn

Mae gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn ymgyrchu i ail-agor a datblygu un o atyniadau amlycaf Ynys Môn yn cynnal cyfarfod i geisio denu cefnogaeth i'r cynllun.

Cafodd Colofn y Marcwis ger Llanfairpwll, sy'n adeilad rhestredig Gradd II, ei chau yn 2012 yn sgil pryderon fod y grisiau ynddo yn beryglus.

Yn ystod y cyfarfod bydd cyfle i'r gwirfoddolwyr rannu eu syniadau a'u gweledigaeth ar gyfer y tŵr gyda phobl yr ardal.

Yn ôl cynghorydd sir lleol, Alun Wyn Mummery, mae angen i bobl yr ardal "gefnogi unrhyw gynllun i adfywio'r tŵr" gan ei fod yn "un o strwythurau mwyaf eiconig yr ynys".