Gweddw Aled Glynne Davies: 'Byddwch yn ofalus a charedig'

Mae cwest i farwolaeth cyn-olygydd Radio Cymru, Aled Glynne Davies, wedi dod i'r casgliad ei fod wedi marw'n ddamweiniol ar ôl syrthio i Afon Taf yng Nghaerdydd.

Clywodd y cwest fod y teulu’n anfodlon gydag ymateb yr heddlu ar ôl i Mr Davies fynd ar goll ac fe wnaeth heddwas gydnabod nad oedd yr ymchwiliad i'w ddiflaniad yn ddigon da.

Ar ddiwedd y cwest ychwanegodd Afryl Davies, gweddw Aled Glynne Davies: "'Sen i jyst yn hoffi dweud wrth aelodau'r cyhoedd pan mae rhywun mewn sefyllfa fath â ni - byddwch yn ofalus, a byddwch gariadus a gofalgar.

"Peidiwch â deud nac awgrymu pethau pan nad ydach chi'n gwybod dim byd yn eu cylch nhw."