Dros 6,000 o ymosodiadau ar staff cyngor yn y gweithle

  • Cyhoeddwyd
WardenFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae dros 6,000 o ymosodiadau wedi bod ar weithwyr cyngor yn y gweithle yn y pedair blynedd diwethaf yng Nghymru.

Mae'r digwyddiadau'n cynnwys ymosodiadau ar staff fel gweithwyr sbwriel, athrawon a gweithwyr cymdeithasol, gyda rhai hefyd wedi wynebu bygythiadau i'w bywydau.

Cafodd sylwedd ei daflu i wyneb un warden traffig, tra bo gweithiwr mewn ysgol wedi cael eu trywanu gan ddisgybl.

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod y ffigyrau'n "bryder mawr".

Poeri yn wyneb warden

Wedi cais rhyddid gwybodaeth daeth i'r amlwg bod o leiaf 6,421 o ymosodiadau wedi bod ar weithwyr cyngor yn y gweithle rhwng Ebrill 2014 a 2018, gyda thua 3,500 o'r rheiny'n ymosodiadau corfforol.

Ond gall y ffigwr go iawn fod llawer uwch gan fod awdurdod lleol mwyaf Cymru, Cyngor Caerdydd, wedi dweud nad oedd ganddyn nhw'r data.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd y mwyafrif o ymosodiadau corfforol ar staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal, gwasanaethau cymdeithasol ac ym myd addysg, ond bu ymosodiadau ar weithwyr sbwriel, wardeniaid traffig a gweithwyr mewn llyfrgelloedd, amgueddfeydd a chanolfannau hamdden hefyd.

Fe wnaeth rhai ddioddef anafiadau fel briwiau, cleisiau, llosgiadau a marciau brathu, tra bod un gweithiwr mewn ysgol ym Mhen-y-bont wedi cael eu "trywanu sawl gwaith" gan ddisgybl o fewn y flwyddyn ddiwethaf.

Wardeniaid traffig wnaeth wynebu rhai o'r digwyddiadau mwyaf ymosodol, gydag un wedi cael sylwedd wedi'i chwistrellu i'w wyneb ar ôl iddo roi dirwy ar gar, ac fe wnaeth aelod o'r cyhoedd boeri yn wyneb warden arall.

Fe wnaeth un dyn fygwth warden cyn gyrru ei gar amdano a'i daro gyda drych y car ac yna ymosod arno'n gorfforol.

Bygwth saethu gweithiwr

Fe wnaeth pobl sy'n gweithio â phlant ddioddef hefyd, gyda llyfrau, darnau o bren a phinnau wedi'u taflu at athrawon a chymorthyddion, tra bod rhai eraill wedi cael eu taro a'u brathu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd rhai o'r bygythiadau mwyaf difrifol yn ymwneud â gweithwyr cymdeithasol.

Fe wnaeth un fam ym Mhen-y-bont fygwth saethu un gweithiwr yn y pen yn ystod trafodaeth am ei phlentyn, tra bod rhiant arall wedi rhoi ei ddwylo o amgylch gwddf un gweithiwr a bygwth ei dorri.

Cafodd gweithiwr arall ei gwthio i'r ffordd gan blentyn, wnaeth yna ei chicio yn ei phen sawl gwaith, a hynny ar ôl iddi daro ei phen ar y palmant.

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod ymosodiad wedi bod ar berson lolipop yn 2016/17.

'Gwarthus'

Dywedodd llefarydd gweithlu Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac arweinydd Cyngor Caerffili, David Poole bod ymosodiadau corfforol neu ar lafar yn erbyn staff cyhoeddus yn "warthus".

"Er bod y digwyddiadau difrifol yn brin, mae'n bryder mawr fod lleiafrif bychan o'r cyhoedd yn amharchus ac yn credu ei bod yn iawn i ymosod ar weision cyhoeddus," meddai.

"Maen nhw'n weithwyr ymroddedig a gofalgar sy'n darparu gwasanaethau allweddol i bobl yn ein cymunedau.

"Mae cynghorau'n darparu cymorth i staff sy'n wynebu triniaeth o'r fath, ac mae rhybuddion yn cael eu rhoi i unigolion, tra bo materion mwy difrifol yn cael eu cyfeirio'n syth at yr heddlu."