Achos twyll: Dynes yn cyhuddo AS o 'ymosodiad treisgar'

  • Cyhoeddwyd
Jenny Lee ClarkeFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jenny Lee Clarke yn cyhuddo AS Dwyrain Abertawe, Carolyn Harris o ymosod arni yn ei swyddfa

Mae dynes oedd yn arfer gweithio i AS Dwyrain Abertawe, Carolyn Harris wedi dweud wrth reithgor fod Ms Harris wedi ymosod arni yn ei swyddfa.

Mae Jenny Lee Clarke wedi ei chyhuddo o ffugio llofnod er mwyn cynyddu ei chyflog pan oedd hi'n rheolwr swyddfa i Ms Harris.

Roedd Ms Clarke a Ms Harris yn arfer gweithio ochr yn ochr â'i gilydd yn swyddfa cyn-AS yr etholaeth, Sian James.

Mae Ms Clarke yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei herbyn ac mae'r achos yn parhau.

'Caru fy swydd'

Roedd Ms Clarke yn ei dagrau wrth iddi ddechrau rhoi tystiolaeth i'r amddiffyniad, gan ddweud ei bod hi'n "caru'r swydd" gyda Ms Harris.

Yn ôl Ms Clarke fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig pan oedd y ddwy yn gweithio i Sian James.

Dywedodd Ms Clarke ei bod hi'n eistedd wrth ei desg gyda Mrs Harris yn rhwbio ei hysgwyddau, cyn iddi "afael" yn ei phen a dechrau ei hysgwyd "yn dreisgar".

O ganlyniad i'r ymosodiad honedig, dywedodd Ms Clarke ei bod wedi gorfod eistedd ar ei soffa tan bedwar y bore gyda chlwt oer am ei phen.

Ffynhonnell y llun, Senedd y DU
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jenny Lee Clarke yn ei dagrau wrth iddi ddechrau rhoi tystiolaeth i'r amddiffyniad, gan ddweud ei bod hi'n "caru fy swydd" gyda Carolyn Harris (uchod)

Ychwanegodd Ms Clarke fod Ms Harris ar ei "gliniau yn ymddiheuro gan ddweud ei bod hi yn fy ngharu yn fwy na'i mab ei hun".

Ni wnaeth Ms Clarke adrodd y mater i Sian James na chwaith i'r heddlu ar y pryd, ond fe aeth hi at y doctor a chymryd amser i ffwrdd o'r gwaith.

Daeth cadarnhad yn ddiweddarach fod Ms Clarke wedi adrodd y digwyddiad i'r heddlu yn 2016.

Mae Mrs Harris eisoes wedi gwadu'n gynharach yn yr achos o ymosod ar Ms Clarke gan ddisgrifio'r honiadau yn "gwbl ffug ac yn ofidus".

'Codi embaras'

Dywedodd Ms Clarke hefyd fod Ms Harris wedi "gwneud sylwadau bychanol am fy rhywioldeb a gofyn cwestiynau anodd a cheisio codi embaras arnaf".

Fe newidiodd popeth meddai Ms Clarke pan wnaeth Ms Harris ddod yn AS, "gyda'i hunan falchder wedi mynd drwy'r to gan fod ganddi'r teitl AS".

Clywodd y llys hefyd fod Mrs Harris yn "casáu gwaith papur" a byddai Ms Clarke yn aml yn arwyddo ffurflenni seneddol yn enw Ms Harris.

Yn aml roedd hi'n anfon ffurflenni i'r Awdurdod Annibynnol Safonau Seneddol (IPSA), y corff sy'n gyfrifol am gyflogau yn San Steffan.

Gofynnwyd iddi: "Wnaethoch chi arwyddo'r ffurflenni (IPSA) yn ei henw?"

Atebodd MS Clarke: "Do, a ffurflenni eraill, beth bynnag oedd hi angen, roeddwn yn gwneud beth bynnag oed rhywun yn ofyn i mi ei wneud."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Carolyn Harris, sydd bellach yn AS, yn arfer gweithio gyda Jenny Lee Clarke i'r cyn-AS Sian James (uchod)

Dywedodd fod Ms Harris yn dweud wrthi: "Arwydda fe a'i anfon e."

Mae Ms Clarke yn cael ei chyhuddo o roi codiad cyflog iddi hi ei hun - o £37,000 y flwyddyn i £39,000 - a lleihau ei horiau wythnosol o 40 i 37 awr a hanner.

Pan ofynnwyd iddi os mai hi wnaeth arwyddo'r ddogfen, fe gyfaddefodd ei bod yn gyfrifol ond ar "orchymyn Carolyn".

Gofynnwyd hefyd a wnaeth Ms Clarke arwyddo'r ddogfen gyda'r bwriad o fod yn anonest neu i gamarwain, fe atebodd "na" i'r ddau gwestiwn.

Mae Jenny Lee Clarke yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei herbyn ac mae'r achos yn parhau.