Ambiwlansys newydd: Buddsoddi £6.7m

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlansys
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gwasanaeth yn cael 44 o gerbydau newydd

Mae'r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru yn cael ei uwchraddio, a Llywodraeth Cymru'n buddsoddi £6.7m yn y fenter.

Bydd y gwasanaeth yn cael 44 o gerbydau newydd fel rhan o'r cynllun.

Ar hyn o bryd, mae gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru dros 700 o gerbydau, sy'n gweithredu ar draws ardal sy'n fwy na 8,000 o filltiroedd sgwâr ledled Cymru.

Mae'r buddsoddiad yn golygu y bydd modd cael gwared ar hen gerbydau a chael 35 o ambiwlansys brys newydd a chwe cherbyd cludo newydd.

Mewn datganiad fore Mawrth, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y cerbydau newydd yn helpu i leihau costau rhedeg gan eu bod yn fwy dibynadwy ac yn fwy effeithlon o ran tanwydd. Fydd dim angen cymaint o waith atgyweirio a chynnal a chadw arnynt chwaith.

Y gobaith yw y bydd y cerbydau newydd yn "darparu'r amgylchedd clinigol gorau posib" ar gyfer trin cleifion.

Y ffigyrau diweddara'

  • Mwy na 36,000 o alwadau 999 ym mis Mehefin

  • 13,199 o'r rheiny'n alwadau 'coch', sef y rhai mwyaf difrifol ble mae bywyd mewn perygl

  • Cynnydd o 3.8% yng nghyfanswm y galwadau brys y mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn eu derbyn rhwng 2013-14 a 2014-15

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford:

"Mae'r pwysau ar ein gwasanaeth ambiwlans yn cynyddu pob blwyddyn ac rydym yn benderfynol o fuddsoddi i sicrhau'r gwasanaeth gorau i gleifion.

"Bydd y buddsoddiad hwn yn cefnogi gwaith y rheng flaen drwy ddarparu'r cerbydau diweddaraf, ac mae'n ymateb i'r nifer cynyddol o alwadau brys a'r angen cynyddol i gludo cleifion i'r ysbyty.

"Rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein gwasanaeth ambiwlans i sicrhau bod y fflyd yn cynnwys y cerbydau mwyaf modern a dibynadwy i ddiwallu anghenion y bobl hynny yng Nghymru sy'n sâl neu wedi'u hanafu."