Llyfryn i hyrwyddo 'Cestyll y Cymry'

Mae angen gwneud mwy i hyrwyddo a dathlu hanes tywysogion ac arglwyddi Cymru, yn ôl y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon.

Dywedodd Dafydd Elis-Thomas fod cestyll fel rhai Owain Glyndŵr a Llywelyn yn atgoffa'r genedl o'i "hanes a'i threftadaeth".

Mae ymddiriedolaeth Cadw wedi bod yn llunio'r llyfryn 'Cestyll y Tywysogion a'r Arglwyddi' er mwyn tynnu sylw at eu hanesion.

Fe fydd y llyfryn ar gael am ddim ym mhob un o safleoedd Cadw.