Llofruddiaeth Elsie Scully-Hicks: 'Cyfleoedd wedi'u colli'

  • Cyhoeddwyd
Matthew Scully-Hicks ac Elsie Scully-HicksFfynhonnell y llun, South Wales Police/Family photo
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Matthew Scully-Hicks ei garcharu am o leiaf 18 mlynedd am lofruddio Elsie Scully-Hicks

Fe gafodd "cyfleoedd eu colli" er mwyn codi pryderon am ofal plentyn 18 mis oed o Gaerdydd a fu farw drwy law ei thad mabwysiedig, yn ôl adroddiad.

Cafodd Adolygiad Arfer Plant ei orchymyn yn dilyn llofruddiaeth Elsie Scully-Hicks gan ei thad mabwysiedig Matthew Scully-Hicks, 31 oed, yn 2016.

Mae'r adroddiad gan wahanol asiantaethau ar y cyd yn nodi bod "diffyg chwilfrydedd proffesiynol" ynghylch profiadau ac anafiadau'r plentyn, a bod bywyd y plentyn yn cael ei weld drwy "lens gadarnhaol".

Mae'n nodi methiant i adnabod ail doriad ar asgwrn coes y ferch mewn archwiliad pelydr-X oedd yn golygu bod cyfle wedi ei golli i roi mesurau gwarchod plant ar waith.

Ond mae'r adroddiad, gafodd ei ryddhau ddydd Iau, hefyd yn nodi nad oedd unrhyw wybodaeth am y rhieni a allai fod wedi darogan ei thynged.

Anafiadau 'catastroffig'

Pan gyrhaeddodd Elsie yr ysbyty roedd ganddi anafiadau difrifol - gwaedu ar yr ymennydd ac esgyrn wedi eu torri.

Mae'r adroddiad yn pwysleisio "nad oedd y plentyn yn anweledig i asiantaethau" ar unrhyw adeg, a doedd dim awgrym bod ei rhieni yn ei chael hi'n anodd i ofalu amdani.

Er hynny, mae'r adroddiad yn nodi bod angen gwella rhai systemau ac arferion.

Wrth nodi fod cyfleoedd wedi eu colli, dywed yr adroddiad fod anafiadau wedi eu gweld fel cyfres o ddigwyddiadau unigol yn hytrach na phatrwm.

Roedd hyn er gwaetha'r ffaith fod Elsie wedi cael nifer o driniaethau meddygol tra yng ngofal Scully-Hicks.

  • Yn Nhachwedd 2015 aeth at y meddyg teulu gan nad oedd yn gallu rhoi pwysau ar ei choes - dangosodd prawf Pelydr-x fod yna doriad

  • Yn Rhagfyr 2014 roedd clais mawr ar ei thalcen

  • Yn Chwefror 2016 roedd disgrifiad ohoni yn cyfogi ar ôl iddi syrthio lawr grisiau.

Dywed yr adroddiad fod staff proffesiynol wedi derbyn eglurhad Scully-Hicks heb gwestiynu digonol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r panel Adolygiad Arfer Plant yn cynnwys yr asiantaethau ynglwm â'r achos

Fe wnaeth Lance Carver, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Bro Morgannwg, ymddiheuro am wallau yn achos Elsie.

"Mae'r casgliadau yn awgrymu fod gweithwyr cymdeithasol a staff yr holl asiantaethau yn gweld yr achos yma o fabwysiadu fel un positif."

Fe ddywedodd yr adroddiad fod "lens gadarnhaol" yn golygu fod achosion lle nad oedd pobl broffesiynol yn edrych ar ddigwyddiadau yn y modd cywir.

"Mae hynny yn rhywbeth fel cyngor y dylid bod wedi ei gydnabod a'i ddeall," meddai Mr Carver.

Ychwanegodd nad oedd camau disgyblu wedi eu cymryd yn erbyn aelodau staff oherwydd nad oedd yr adroddiad yn "awgrymu y byddai hynny'n addas".

Pwy oedd Elsie Scully-Hicks?

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Elsie Scully-Hicks yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd

Cafodd Elsie ei mabwysiadu gan Scully-Hicks, sy'n wreiddiol o Gernyw, a'i ŵr Craig, wyth mis cyn ei marwolaeth ym mis Mai 2016.

Bu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ar 29 Mai wedi i feddygon ddweud nad oedd modd ei hachub.

Clywodd achos llys ei bod wedi dioddef anafiadau "catastroffig" gan gynnwys torri ei phenglog, torri ei choes a chleisiau difrifol.

Roedd ganddi waedu ar ei hymennydd ac o fewn ei llygaid hefyd.

Mae Adolygiad Arfer Plant yn cael ei gynnal ar ôl i blentyn farw neu gael ei anafu yn ddifrifol, a bod cam-drin neu esgeulustod ynghlwm â'r achos.

Roedd Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro, Gwasanaethau Cymdeithasol Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn rhan o'r adolygiad.

Mae'r adroddiad yn nodi sawl maes lle mae angen dysgu gwersi, gan gynnwys:

  • Bod pediatregwyr mewn ysbytai yn allweddol o ran adnabod y posibilrwydd bod anafiadau yn rhai bwriadol;

  • Dylai barn broffesiynol gael ei seilio ar ystyried yr holl dystiolaeth yn hytrach na digwyddiadau unigol;

  • Rhaid i weithwyr proffesiynol sicrhau bod manylion anafiadau plentyn yn cael eu cofnodi fel digwyddiadau arwyddocaol;

  • Angen i bob asiantaeth fod yn ymwybodol o'r holl ddigwyddiadau arwyddocaol ym mywyd plentyn;

  • Dylai Adolygiadau Mabwysiadu gynnig cyfleoedd sy'n golygu craffu a herio cadarn;

  • Mae cofnodi a chadw gwybodaeth a ddaw i law drwy negeseuon testun neu eraill yn ffynhonnell wybodaeth gynyddol bwysig.

Dywedodd Cadeirydd Annibynnol yr Adolygiad Arfer Plant, Wendy Rose: "Yn wyneb yr amgylchiadau trasig sy'n gysylltiedig â marwolaeth y plentyn hwn, mae'n hanfodol ein bod yn dysgu gan yr hyn a ddigwyddodd iddi.

"Daethom i'r casgliad y gellir cryfhau rhai systemau ac arferion fel y gall pobl fod yn ffyddiog yn safon y gwasanaethau a gynigir i blant sy'n cael eu rhoi i'w mabwysiadu, a'u teuluoedd.

"Mae gwelliannau prydlon ac amserol eisoes wedi'u rhoi ar waith gan yr asiantaethau sy'n gysylltiedig â'r achos, ac mae'r adroddiad yn argymell rhoi camau pellach ar waith i sicrhau gwasanaeth plant cryf ac ymatebol."

Dywedodd Gwasanaeth Cenedlaethol Mabwysiadu Cymru fod angen i wasanaethau mabwysiadu ddysgu gwersi o farwolaeth Elsie.