Google Translate: Melltith neu fendith?
- Cyhoeddwyd
Sawl gwaith mae sylw'n cael ei roi i gamgymeriadau cyfieithu amlwg yn y Gymraeg a sawl gwaith mae peiriannau cyfieithu yn cael y bai amdanyn nhw? Ond ydy'r feddalwedd yma'n fwy o help nac o rwystr mewn gwirionedd?
Y cyhuddiad yn aml yw fod cwmnïau a sefydliadau yn dangos diffyg parch a gostwng safonau drwy ddefnyddio peiriant i gyfieithu i'r Gymraeg yn lle gofyn i gyfieithydd proffesiynol wneud y gwaith, gyda chanlyniadau echrydus o bryd i'w gilydd.
Weithiau mae'r 'Sgymraeg' sy'n cael ei greu o ganlyniad, yn ddoniol...
... ac weithiau mae'n arwain at gynhyrchu dogfennau ac arwyddion cyhoeddus di-synnwyr yn y Gymraeg.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae camgymeriadau hefyd yn gallu costio'n ddrud fel y canfu Cyngor Wrecsam yn ddiweddar.
'Help sylweddol' i gyfieithwyr
Ond mae Rhys Owain Jones sy'n gyfieithydd yn uned gyfieithu Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru eisiau achub cam Google Translate a'i debyg.
Mae'n adnodd defnyddiol i gyfieithwyr meddai Mr Jones, cydlynydd uned Gair Cymraeg yr undeb yng Nghaerdydd.
"Mae'n hawdd i gyfieithwyr yr 21ain ganrif droi at dechnoleg i'w helpu â'u gwaith beunyddiol, a dwi'n un am hynny," meddai Rhys Owain Jones.
"Rydyn ni yn Gair Cymraeg yn defnyddio meddalwedd cof cyfieithu ac yn manteisio ar gyfieithu peirianyddol Google Translate hefyd.
"Mae'n siŵr bod ambell un ohonoch chi'n synnu wrth i mi gyfaddef ein bod ni'n defnyddio Google Translate, ac mae perffaith hawl gennych chi grafu'ch pen dipyn bach.
"Ond y gwir yw, mae'r adnodd hwn yn ein helpu ni'n sylweddol."
Roedd yr Esgob William Morgan yn cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg o'r Roeg a'r Hebraeg yn y 16eg ganrif heb "ddim mwy na phluen i ysgrifennu a phowlen o gawl i roi egni iddo," meddai Mr Jones.
Mae'r grefft wedi trawsnewid yn llwyr yn y canrifoedd ers hynny, meddai.
"Treuliodd William Morgan hanner y 1580au yn cyfieithu'r Hen Destament ac yn diwygio fersiwn William Salesbury o'r Testament Newydd," meddai Rhys Owain Jones.
"O ystyried bod tua 600,000 o eiriau yn yr Hen Destament yn unig i'w cyfieithu, dwi'n amcangyfrif na lwyddodd Morgan i gyfieithu llawer mwy na 400 o eiriau y dydd.
"Heddiw, mae disgwyl i lawer o gyfieithwyr gyflawni hynny mewn awr."
Hefyd o ddiddordeb:
Yn ôl ymchwil meddai Mr Jones, gall defnyddio cyfieithu peirianyddol, fel Google neu Microsoft (sef yr hyn mae'r Cynulliad yn ei ddefnyddio) gyflymu eich amser prosesu dros 60%.
"Llai o deipio, llai o waith cyfieithu o'r newydd. Gwych!" meddai.
"A ninnau wedi defnyddio cyfieithu peirianyddol ers cwpl o fisoedd, mae'n anodd dychmygu bywyd hebddo nawr.
"Pan ddechreuais i gyda Gair Cymraeg rhyw bedair blynedd yn ôl fel cynorthwyydd cyfieithu, byddai trosi 300 o eiriau'r awr yn ymdrech go dda (i mi ta beth).
"Erbyn hyn, gyda'r holl dechnoleg sydd ar gael i ni, gallwn ni ddyblu hynny'n hawdd heb lawer mwy o egni nac ymdrech!"
'Technoleg yn teyrnasu - ond pobl yn hollbwysig'
"Wrth gwrs, mae 'na wendidau," cyfaddefa Rhys Owain Jones.
"Mae peiriannau cyfieithu wedi cynhyrchu nifer o gyfieithiadau sâl, rhai gwirioneddol sâl, ac ambell glasur hefyd!
"Pan fyddwch chi'n gwneud cais i fynd i'r brifysgol, fyddwch chi'n ystyried gwneud 'cwrs brechdan' o gwbl?
"Mae'n siŵr eich bod chi 'mor sâl â pharot' wrth weld Cymraeg fel hyn dro ar ôl tro neu hyd yn oed 'dros y lleuad' pan welwch chi gyfieithiadau da!
"Mae peiriannau cyfieithu heddiw yn soffistigedig iawn ac mae'r rhan fwyaf o'u cynigion yn weddol. Dim ond ychydig bach o addasu sydd ei angen arnynt ac weithiau, mae'n bosib y cewch chi frawddegau nad oes angen eu newid o gwbl!
"Er bod technoleg yn teyrnasu'r maes cyfieithu yng Nghymru a ledled y byd erbyn hyn, mae presenoldeb dynol yn dal i fod yn hollbwysig.
"Mae peiriannau cyfieithu'n datblygu'n gyflym iawn. Yn y dyfodol, mae'n debygol na fydd angen cyfieithwyr mwyach, ond bydd angen golygwyr.
"Sut gall peiriant benderfynu ai 'ti' neu 'chi' yw ystyr 'you' neu ai diod boblogaidd, ffrwyth neu gêm o sboncen a olygir gan 'squash'?
"Mae tipyn o ddatblygu i'w wneud ond os bydd y dechnoleg yn parhau i ddatblygu fel y mae ar hyn o bryd, pwy a ŵyr beth ddigwyddith yn y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2018