Caerdydd yn paratoi ar gyfer dathliad Geraint Thomas
- Cyhoeddwyd
Mae Geraint Thomas yn cael ei groesawu yn ôl i Gaerdydd mewn digwyddiad arbennig sy'n dathlu ei lwyddiant diweddar yn y Tour de France ddydd Iau.
Thomas yw'r Cymro cyntaf i ennill ras feicio fwya'r byd, ac mae disgwyl i dorfeydd mawr ymuno yn y dathliadau yng nghanol y brifddinas.
Bydd y dathliadau yn dechrau am 16:15 yn y Senedd, cyn gorffen tu allan i Gastell Caerdydd rhwng 17:00 a 17:30.
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd rhai ffyrdd yn cael eu cau am gyfnod er mwyn hwyluso paratoadau ar gyfer y seremoni.
Dywedodd y Llywydd, Elin Jones AC ei bod hi "wrth fy modd i allu croesawu Geraint Thomas i'r Senedd".
"Mae hi'n addas bod ei lwyddiant yn cael ei ddathlu ar yr un pryd a dathliad arbennig arall yng Nghymru, yr Eisteddfod."
Y cynllun yw bod Thomas yn beicio fyny Heol Eglwys Fair, ochr yn ochr â pheloton o feicwyr ifanc o glybiau beicio amrywiol, cyn iddo gamu ar lwyfan i siarad â'r dorf tu fas i furiau'r castell.
Bydd sawl ffordd ar gau rhwng 15:00 ac 20:00 yng nghanol y ddinas, ac i weld y rhestr yn llawn gallwch gyfeirio at wefan Cyngor Caerdydd, dolen allanol.
'Methu credu'r peth'
Mae merch 12 oed o Rostryfan yng Ngwynedd sy'n aelod o Glwb Beicio Dwyfor wedi cael ei dewis i fod yn un o'r criw fydd yn beicio y tu ôl i Geraint Thomas fel rhan o'r seremoni.
Cafodd clybiau beicio ledled Cymru eu gwahodd i ddewis cynrychiolwyr i reidio yn y peloton y tu ôl i Geraint ac roedd Elliw Hunt yn un o ddau gafodd eu dewis o glwb Beicio Dwyfor.
Dywedodd ei bod methu credu'r newydd pan glywodd ei bod wedi cael ei dewis a'i bod yn "edrych ymlaen yn arw".
Mae Elliw yn gobeithio y bydd llwyddiant Thomas yn annog rhagor o bobol ifanc i ymuno a chlybiau beicio gan ei fod yn "ffordd dda o gadw'n heini a chyfarfod pobol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2018
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2018