Caniatáu £1.5m i adnewyddu Venue Cymru, Llandudno

  • Cyhoeddwyd
Venue Cymru yn LlandudnoFfynhonnell y llun, Betty Longbottom/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae Venue Cymru yn Llandudno yn gyrchfan boblogaidd

Mae cynlluniau i weddnewid theatr a chanolfan gynadleddau Venue Cymru yn Llandudno wedi cael eu cymeradwyo.

Mae Cabinet Cyngor Conwy wedi cytuno i ddarparu £1.5m tuag at y gost o newid mynedfa'r adeilad a'r gwagle y tu fewn.

Roedd y ganolfan eisoes wedi sicrhau £1.5m gan yr Undeb Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru, ar yr amod y byddai Cyngor Conwy yn darparu'r un maint o arian.

Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau fis nesaf, gyda'r gobaith y bydd wedi cael ei gwblhau erbyn diwedd haf 2019.

Ddydd Mawrth fe wnaeth Cabinet Cyngor Conwy gytuno i ddarparu £1m yn 2018/19 a £481,938 yn y flwyddyn ariannol nesaf, 2019/20.

Cafodd y caniatâd cynllunio ei roi wythnos diwethaf.

Fel rhan o'r gwaith newydd bydd rhan o welydd y fynedfa yn cael eu dymchwel a llen gwydr newydd yn cael eu rhoi yn eu lle.

Bydd hefyd stiwdio ddawns newydd ac ystafell gynhadledd yn cael eu creu ar yr ail lawr.