Galw am wella diogelwch i yrwyr yr A470 ger Trawsfynydd
- Cyhoeddwyd
Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys er mwyn gwella diogelwch i yrwyr yr A470, ger Trawsfynydd, yn ôl trigolion lleol.
Daw'r galwadau ar ôl i ddyn farw mewn damwain angheuol ar gyffordd yr A4212 ar 5 Awst.
Digwyddodd y ddamwain honno dair milltir o'r man ble bu farw merch a babi chwe mis oed ym mis Ionawr.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae cyffordd Trawsfynydd a throad Gellilydan wedi eu cynnwys yn yr adolygiad nesaf o gyfyngiadau cyflymder.
Yn cynrychioli bobl Trawsfynydd, Gellilydan a Maentwrog ar Gyngor Gwynedd, dywedodd y Cynghorydd Elfed Roberts fod yna "bryder ofnadwy ar ôl y ddamwain rhwng Gellilydan a Maentwrog".
"Roedd pawb yn yr ardal wedi dychryn yn ofnadwy bryd hynny, ac eto mae hyn wedi digwydd rŵan hefyd," meddai.
Yn ôl ffigyrau Llywodraeth y DU ar gyfer 2016, maen nhw'n amcan bod cost pob damwain angheuol oddeutu £1.8m.
Ychwanegodd Mr Roberts: "Does dim pris ar gost bywyd, ond mae ymchwiliad i ddamwain angheuol yn costio dros filiwn o bunnau.
"Pam na fedran nhw wario canran o'r arian yna i wneud y ffordd yma'n saffach, fel ein bod ni ddim yn cael damweiniau lle mae yna bobl yn colli eu bywydau."
'Angen gweithredu ar frys'
Bu farw Anna Williams 22 oed, a'i nith chwe mis oed Mili Wyn Ginniver mewn damwain car yng Ngellilydan ym mis Ionawr.
Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirinnydd, Liz Saville Roberts, yn dweud nad ydy'r ffigyrau'n dangos y darlun llawn.
"Mae yna nifer fawr o ddamweiniau yn digwydd yma sydd ddim yn cael eu cofnodi gan yr heddlu, am nad oedd neb wedi brifo. Ond yr hyn mae pawb yn gwybod yn lleol yw bod nifer fawr yn fwy o ddamweiniau yn digwydd yma nag y mae'r ffigyrau yn ei ddangos," meddai.
"Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw'r ffordd yma, a dwi'n erfyn ar Ken Skates i gynnal arolwg o ddiogelwch ar hyd y ffyrdd yma trwy gydol y flwyddyn ac hefyd yn ystod misoedd prysur yr haf pan mae yna fwy o gerbydau yn teithio ar hyd y ffordd.
"Mae angen iddo weithredu ar hynny cyn gynted â phosib."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ymwybodol o bryderon rhai aelodau o'r gymuned mewn perthynas â'r damweiniau trasig hyn.
"Mae diogelwch ffyrdd yn flaenoriaeth uchel i Lywodraeth Cymru ac o ganlyniad i gyfarfodydd a gynhaliwyd rhwng swyddogion a chynrychiolwyr yr awdurdod lleol, rydym wedi cynnwys cyffordd Trawsfynydd yn ogystal â throad Gellilydan yn yr Adolygiad o Gyfyngiadau Cyflymder diweddaraf.
"Fe wnaethom hefyd edrych ar y trefniadau ar gyfer arwyddion dros dro a rhai parhaol yn ardal Gellilydan, ac wedi sicrhau bod yna arwyddion yn rhybuddio gyrywr yn yr ardal y bu'r gymuned yn pryderu amdano.
"Bydd adroddiad yr heddlu i ddamwain Gellilydan yn cael ei gwblhau yn yr hydref. Rydym hefyd wedi comisiynu astudiaeth Ymchwiliad Atal Gwrthdrawiad, i adolygu hanes damweiniau blaenorol a darparu argymhellion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst 2018
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2018