'Diffygion strwythurol' yn Stadiwm Liberty Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm LibertyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Agorwyd Stadiwm Liberty yn 2005

Mae'r cwmni sy'n rhedeg Stadiwm Liberty yn Abertawe yn honni bod diffygion strwythurol yn yr adeilad.

Mae Cwmni Rheoli Stadiwm Abertawe (SSMC) yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Cyngor Abertawe ac adeiladwyr y stadiwm, Interserve Construction Ltd..

Maen nhw'n honni bod dur yr adeilad £27m yn rhydu, a bod ymwelwyr wedi disgyn oherwydd trafferthion gyda lloriau llithrig.

Mae'r cyngor yn gwadu cyfrifoldeb am y diffygion honedig.

Mae SSMC yn hawlio £1.3m mewn iawndal, a bydd yr achos yn cael ei glywed yn yr Uchel Lys ym mis Hydref.

Dywedodd Cyngor Abertawe bod rhan o'r achos yn eu herbyn eisoes wedi cael ei daflu allan o'r llys. Cafodd rhan o achos Interserve hefyd ei ddileu ar ôl cael ei gyflwyno yn rhy hwyr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhwd i'w weld ar rai o'r trawstiau dur y tu allan i'r stadiwm

Ers agor yn 2005, mae'r stadiwm yn gartref i Glwb Pêl-droed Abertawe, a rhanbarth rygbi'r Gweilch yn ogystal â chynnal digwyddiadau cerddorol mawr.

Mae SSMC - menter ar y cyd rhwng y clybiau chwaraeon a'r cyngor lleol - yn rhedeg a chynnal a chadw'r stadiwm o dan brydles 50 mlynedd.

Ond fe wnaeth y clwb pêl-droed gael rheolaeth lwyr o SSMC y gaeaf diwethaf mewn cytundeb a sicrhaodd incwm blynyddol o £300,000 i'r cyngor.

Fe wnaeth llefarydd ar ran Cyngor Abertawe gadarnhau bod SSMC yn hawlio iawndal am ddiffygion honedig i'r strwythur ynghyd â'r lloriau llithrig mewn rhannau o'r stadiwm.

'Amddiffyn ein safbwynt'

Dywedodd: "Mae'r Cyngor eisoes wedi dweud yn glir nad oes gennym gyfrifoldeb am y diffygion honedig, ac fe fyddwn yn amddiffyn ein safbwynt yn gadarn er mwyn gwarchod arian trethdalwyr Abertawe."

Dywedodd llefarydd ar ran Interserve Construction bod mwyafrif yn hawliad yn eu herbyn wedi cael ei daflu allan gan y llys am ei fod wedi cael ei gyflwyno y tu hwnt i'r terfyn amser o 12 mlynedd.

Ychwanegodd: "Mae'r hyn sy'n weddill o'r achos yn ymwneud â chymal 16 o'r cytundeb, ac yn son am ddiffygion a gafodd eu hadnabod o fewn y cyfnod cyfreithiol - sef blwyddyn ar ôl cwblhau'r adeilad - gyda chwestiwn a chafodd y diffygion yna eu cywiro neu beidio."

Mae SSMC wedi gwrthod gwneud sylw ar y mater.