Cytundeb CPD Abertawe a'r cyngor i reoli Stadiwm Liberty
- Cyhoeddwyd
Fe allai Clwb Pêl-droed Abertawe gymryd rheolaeth o Stadiwm Liberty wedi iddyn nhw ddod i gytundeb â chyngor y ddinas.
Fe fyddai'r stadiwm yn parhau i fod yn eiddo i Gyngor Abertawe, a byddai tîm rygbi'r Gweilch yn parhau i chwarae yno.
Ond byddai'r cytundeb yn gadael i'r clwb pêl-droed ehangu'r stadiwm neu werthu'r hawliau i enw'r stadiwm i noddwyr.
Fe fydd yn rhaid i gynghorwyr Abertawe gymeradwyo'r cytundeb i'w gadarnhau.
Ar hyn o bryd, mae'r stadiwm - gafodd ei adeiladu yn 2005 - yn cael ei redeg ar y cyd rhwng y cyngor, yr Elyrch a'r Gweilch.
Mae gan y tair ochr gynrychiolaeth ar gwmni rheoli'r stadiwm - ond o dan y cytundeb newydd, y clwb pêl-droed fyddai'n rheoli'r cwmni hwnnw'n llawn.
Yn ganolog i'r cytundeb mae galluogi'r Elyrch i ennill mwy o arian o'r stadiwm drwy ystyried ehangu, gwerthu enw'r stadiwm a chael noddwyr ychwanegol.
Fe fydd Cyngor Abertawe yn derbyn taliadau rhent am y stadiwm am y tro cyntaf, gyda'r Gweilch yn aros yno ar les hirdymor.
'Teg i'r trethdalwyr'
Yn ôl arweinydd y cyngor, mae'r cytundeb yn "deg i'r trethdalwyr" gan y byddai'r cyngor yn cael taliadau ac y byddan nhw'n cael cyfran o unrhyw enillion o werthu enw'r maes.
Mae'r clwb pêl-droed hefyd wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn caeau 3G cymunedol o gwmpas y ddinas - gydag addewid o ddau gae newydd fyddai'n agored i'r cyhoedd bob pum mlynedd.
Bydd cabinet Cyngor Abertawe yn cwrdd ar 16 Tachwedd i ystyried y cytundeb ochr yn ochr â chynnig i gyfnewid tir fel bod Stadiwm Liberty yn medru cael ei ehangu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Awst 2017
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd20 Awst 2016