Mwy yng Ngwynedd 'yn cael rhyw ar ôl yfed neu gyffuriau'
- Cyhoeddwyd
Mae ymgynghorydd iechyd yng Ngwynedd yn dweud ei fod wedi gweld cynnydd yn ddiweddar yn nifer y bobl sydd wedi bod yn cael rhyw dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol.
Dywedodd Dr Ushan Andrady, arbenigwr mewn iechyd rhyw a HIV, y dylai pobl ystyried y risgiau cyn mynd ati.
Daw hynny yn dilyn adroddiadau fod nifer yr achosion o syffilis bum gwaith yn uwch na'r arfer yn ne orllewin Cymru.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi lansio ymgyrch i geisio gwneud pobl yn fwy ymwybodol o iechyd rhyw.
Afiechydon
Dywedodd Dr Andrady, sy'n arwain ymgyrch 'Sextember' y bwrdd iechyd, nad oedd pobl yn ymwybodol o'r risg o gael rhyw heb ddiogelwch pan maen nhw dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol.
"Rydyn ni'n bendant wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n dod i'r clinig ar ôl cael rhyw tra'u bod nhw dan ddylanwad cyffuriau ac alcohol, ac yn difaru beth maen nhw wedi'i wneud," meddai.
"Beth dyw rhai pobl ddim yn sylwi yw bod modd dal afiechydon o gael rhyw heb ddiogelwch, ac weithiau mae pobl yn anghofio am ddiogelwch pan maen nhw dan ddylanwad cyffuriau ac alcohol.
"Mae'n gymysgedd peryglus, ac mae pobl hefyd angen bod yn ymwybodol pan maen nhw allan y gallai rhywun rhoi rhywbeth yn eich diod heb i chi wybod, allai eich arwain i gael rhyw heb ddiogelwch a pheidio bod yn barod amdano."
Fe wnaeth adroddiad yn 2016 gan y British Medical Journal dynnu sylw at gyswllt rhwng camddefnyddio sylweddau a risg uwch o ymddygiad rhywiol.
Yn yr astudiaeth o dros 15,000 o ddynion a menywod, fe wnaethon nhw ganfod bod 40% o ferched a 31% o ddynion 16-24 oed wedi cael rhyw heb ddiogelwch ar ôl goryfed.
Dywedodd Dr Andrady fod hynny'n dangos yr angen i fod yn barod am bob posibiliad, gan gynnwys cario condomau neu ddulliau atal cenhedlu eraill.
"Byddwch yn ymwybodol hefyd o faint allwch chi yfed, a sicrhau nad ydych chi na'ch partner wedi yfed gormod," meddai.
"Gwnewch yn siŵr bod y ddau ohonoch chi'n gallu cydsynio i gael rhyw, mae gennych chi'r hawl i ddweud na unrhyw bryd.
"A pheidiwch â chynhyrfu - gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod ble i gael dulliau atal cenhedlu brys a gwasanaethau iechyd rhyw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2017
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2017