Gitâr yn y to: Talp o hanes cerddoriaeth Gymraeg... yn yr atig

  • Cyhoeddwyd
Gitâr Tecwyn IfanFfynhonnell y llun, Gwilym a Megan Tudur
Disgrifiad o’r llun,

Mae câs gitâr Tecwyn Ifan yn dangos ei bod wedi crwydro ond mewn atig ger Aberystwyth mae wedi bod yn y blynyddoedd diweddar

Mae atig y rhan fwyaf ohonon ni'n llawn trysorau neu bethau anghofiedig, ond beth ydy'r peth mwyaf hynod ydych chi wedi ei ddarganfod yn eich atig chi?

Wrth glirio eu hatig yn eu cartref ers dros 40 mlynedd yn Lledrod ger Aberystwyth, fe wnaeth Megan a Gwilym Tudur ddod o hyd i hen gitâr y canwr a'r cyfansoddwr Tecwyn Ifan.

Fe wnaethon nhw brynu'r gitâr mewn ocsiwn ar Radio Cymru yn yr 1980au.

Mae llofnod Tecwyn Ifan - a ryddhaodd ei albwm gyntaf gofiadwy, Y Dref Wen, yn 1977 - ar y tu mewn a sticeri o lefydd roedd wedi perfformio ynddyn nhw ar y câs.

Fe wnaeth Gwilym brynu'r gitâr gyda'r bwriad o ailddysgu chwarae'r offeryn ar ôl rhoi'r gorau iddi pan oedd yn iau.

"Ro'n i'n meddwl ella baswn i'n trio eto - ond wnes i ddim!" meddai.

Mae'n gobeithio gallu gwerthu'r gitâr i godi arian at achos da, neu ei rhoi i amgueddfa.

Ffynhonnell y llun, Gwilym a Megan Tudur
Disgrifiad o’r llun,

Mae llofnod Tecwyn Ifan y tu mewn i'r gitâr

Roedd Megan a Gwilym Tudur yn rhedeg Siop y Pethe yn Aberystwyth am 45 mlynedd.

Ymysg yr eitemau eraill maen nhw wedi eu canfod yn yr atig mae nifer o lyfrau; gwerth 15 mlynedd o rifynnau o'r cylchgrawn Golwg; 18 mlynedd o bapur bro Y Ffynnon; rhifynnau o bapur myfyrwyr Aberystwyth yn y 60au, Llais y Lli, a hen delyn.

Mae Megan hefyd wedi ailddarganfod ei chasgliad o hen ddillad a defnyddiau vintage o'r 60au a'r 70au.

"Profiad cymysg ydy clirio atig," meddai Gwilym.

"Mae'n drist mewn ffordd - mae'ch bywyd a'ch ieuenctid chi yn yr atig. Er enghraifft dwi wedi gorfod taflu'r sgîs, a'r dillad a'r sgidiau sgïo - dwi wedi mynd rhy hen i sgïo bellach.

"Dydych chi ddim yn licio taflu pethau ar y pryd ond faswn i'n cynghori unrhyw un i beidio cadw dim byd yn yr atig! Mae'n lot o waith pan mae'r amser yn dod."

Mae'r pâr yn clirio er mwyn paratoi at symud tŷ ond maen nhw'n gobeithio darganfod cartref newydd i'r holl drysorau maen nhw wedi eu cadw dros y blynyddoedd.

Tybed beth yw'r peth rhyfeddaf rydych chi wedi ei ddarganfod mewn atig? Gadewch i ni wybod drwy anfon ebost: cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu llenwch y ffurflen isod: