M4: 'Ni fydd ffordd yn datrys tagfeydd'
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn dweud na fyddai gwario'r arian sydd wedi ei glustnodi i ffordd osgoi'r M4 o amgylch Casnewydd yn cael gwared ar dagfeydd, a dylai'r £1.4bn yna cael ei wario ar drafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau beics, yn enwedig Metro De Cymru.
Mae'r adroddiad, gafodd ei sgwennu ar y cyd gan Brifysgol Gorllewin Lloegr a'r New Economics Foundation, yn dweud fod y 'llwybr du' y mae'r llywodraeth eisiau ei hadeiladu i osgoi Twneli Bryn-glas yn ceisio "datrys problem o'r ganrif yma, gydag ateb o'r ganrif ddiwethaf".
Mae'r Comisiynydd eisoes wedi beirniadu'r llwybr du mewn ymchwiliad cyhoeddus, sydd yn paratoi i adrodd yn ôl, ond mae'r adroddiad yma yn mynd gam ymhellach.
Maen nhw'n argymell sawl ffordd fyddai gwario'r arian ar Metro De Cymru, trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn gwella iechyd y boblogaeth ac yn lleihau anghydraddoldeb incwm, llygredd a charbon.
Yn ôl yr adroddiad, doedd yr asesiad gafodd ei wneud gan y llywodraeth yn 2013 cyn penderfynu ar y 'llwybr du' heb gynnwys mesur cywir o effaith buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus, na chwaith effaith y rhan hynny o'r Metro sydd wedi ei gytuno ers yr asesiad.
Doedd yr asesiad hynny heb drafod effaith gwariant cyfatebol (i gost y ffordd osgoi) ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Gyda'r holl arian cyhoeddus sydd wedi ei glustnodi i'r prosiect, mae'r adroddiad yn dweud fod hi'n bwysig fod yr arian yn cael gymaint o effaith â phosib ac yn awgrymu opsiynau gwahanol ar sut i'w ddefnyddio:
Cysylltiadau trên gwell, gwasanaethau Cysylltu a Theithio rhwng Trefynwy a Chasnewydd, coetsis cyflym i gymudwyr yn cysylltu Caerdydd, Casnewydd a Gorllewin Lloegr - yn costio £460m;
Gwella cyfleoedd teithio llesol fel cerdded a beicio ar draws Casnewydd, Sir Fynwy a Chaerdydd ar gost o £118m;
Ariannu pob cam o Metro De Cymru - cost bosib o £1bn - ar ben £738m sydd wedi ei glustnodi i'r camau cynta' hyd at 2023;
Gwelliannau i'r M4 megis technoleg traffyrdd clyfar - sy'n rheoli traffig ar yr M42 yn barod;
Mynediad cyfyngedig o rai lleoliadau yn ystod cyfnodau prysur, lonydd i fysus a theithwyr sy'n rhannu ceir, 10 taith cludiant rheilffyrdd y dydd i leihau'r nifer o lorïau yn teithio trwy Dwneli Bryn-glas.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod yr ymchwiliad cyhoeddus wedi rhoi'r cyfle i bawb, gan gynnwys y Comisiynydd, i fod yn rhan o be fyddai'n fuddsoddiad sylweddol yn seilwaith Cymru.
"Rydym yn disgwyl derbyn adroddiad yr arolygwyr annibynnol yn fuan," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
"Fydd hyn, ynghyd â thrafodaeth a phleidlais y Senedd, yn goleuo'r penderfyniad terfynol ynghylch a yw'r prosiect M4 arfaethedig, mewn cydweithrediad â Metro De Cymru, yn darparu'r ateb hirdymor i'r problemau ar y porth hwn i Gymru.
"Mae ein hymrwymiad i wella trafnidiaeth gyhoeddus ar draws Cymru gyfan yn amlwg yn y lansiad mis nesaf o'n contract gwasanaethau rheilffyrdd nesaf a fydd yn cyflawni gwelliannau sylweddol - gan gynnwys mwy o drenau gwell ar gyfer teithwyr ledled Cymru a'r Gororau - ac o 2023 bydd buddsoddiad £800m yn sicrhau bod 95% o bob taith ar drenau newydd."
'Angen ailystyried'
Wrth ymateb i'r adroddiad gan Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Trafnidiaeth addas ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol, fe ddywedodd ysgrifennydd cabinet cysgodol Plaid Cymru dros drafnidiaeth, Adam Price AC: "Mae'r adroddiad hwn gan swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn gwbl ddamniol o Lywodraeth Cymru.
"Mae Plaid Cymru wedi bod yn glir nad llwybr du yr M4 yw'r opsiwn cywir ac mae'r adroddiad hwn yn cadarnhau hynny. Mae cefnogaeth y llywodraeth i'r llwybr du yn seiliedig ar arfarniad opsiynau diffygiol a chyfyng a wnaed yn 2013.
"Y pwynt allweddol yma yw y byddai cynnal arfarniad heddiw o dan ganllawiau trafnidiaeth diweddaraf Llywodraeth Cymru o'r llynedd yn arwain at ddiystyru opsiwn llwybr du yr M4. Mae'n amlwg felly bod angen ailystyried - a hynny ar fyrder."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd29 Mai 2018
- Cyhoeddwyd21 Mai 2018
- Cyhoeddwyd9 Mai 2018
- Cyhoeddwyd1 Mai 2018
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2018