Penodi Dyfed Edwards yn is-gadeirydd corff trethi Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford wedi cyhoeddi penodiad is-gadeirydd cyntaf bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru.
Bydd Dyfed Edwards yn ymgymryd â'i rôl fel is-gadeirydd ar unwaith.
Bu Mr Edwards yn gyfarwyddwr anweithredol i'r Awdurdod ers mis Hydref 2017, pan ffurfiwyd yr awdurdod trethi newydd gan Lywodraeth Cymru.
Cafodd ei ethol yn gynghorydd ar Gyngor Gwynedd dros Blaid Cymru yn 2004, a bu'n arweinydd y cyngor o 2008 tan iddo roi'r gorau i'r swydd cyn etholiadau cyngor 2017.
Wrth gadarnhau'r penodiad, dywedodd yr Athro Drakeford: "Rwy'n falch iawn o gadarnhau penodiad Dyfed Edwards fel is-gadeirydd cyntaf bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru.
"Mae Dyfed wedi bod ynghlwm â'r Awdurdod ers iddo gael ei ffurfio llynedd, ac mae'n dod â chyfoeth o brofiad i'r rôl."
Dywedodd Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru, Kathryn Bishop: "Flwyddyn ar ôl ffurfio bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru, rydyn ni'n hynod o falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi gwneud y penodiad hwn.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda Dyfed, a chydweithwyr eraill, fel awdurdod treth newydd sy'n codi refeniw pwysig i gefnogi cymunedau ledled Cymru."
Awdurdod Cyllid Cymru oedd yr adran anweinidogol gyntaf i'w sefydlu gan Lywodraeth Cymru, ac fe ddaeth yn weithredol ym mis Ebrill 2018.
Dros y pedair blynedd gyntaf, disgwylir i'r Awdurdod gasglu dros £1bn o refeniw trethi i Lywodraeth Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd22 Medi 2017
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2016