Agor unedau arbenigol newydd ym Modelwyddan a Chaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones yn agor y ganolfan newyddFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn bresennol ar gyfer yr agoriad swyddogol yn Ysbyty Glan Clwyd

Mae dwy uned arbenigol newydd wedi cael eu hagor yng Nghymru, un ym Modelwyddan a'r llall yng Nghaerdydd.

Cafodd yr uned gofal dwys gwerth £18m i'r newydd-anedig yn Ysbyty Glan Clwyd ei hagor yn swyddogol ddydd Mercher gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Mae'r ganolfan, fydd yn rhan o Rwydwaith Newyddenedigol y Gogledd, yn uned 20 cot fydd yn gofalu am fabanod sy'n wael iawn neu wedi'u geni'n arbennig o gynnar.

Cafodd uned asesu brys hefyd ei hagor yng Nghanolfan Canser Felindre, Caerdydd - uned sydd wedi ei ddisgrifio fel "siop un stop" ar gyfer cleifion canser argyfwng.

Bydd pedwar gwely pwrpasol ar gael i gleifion yn ogystal â doctor a nyrsys arbenigol.

Adnodd 'ardderchog'

Mae'r ganolfan ym Modelwyddan yn cynnwys gwasanaeth pontio i helpu rhieni i dreulio mwy o amser gyda'u babanod, gwasanaeth cludiant newyddenedigol, a llety i'r rhieni ar y safle.

Dywedodd Mr Jones fod y ganolfan newydd yn "ardderchog ar gyfer gofal dwys i fabanod newydd yn y gogledd" a'i fod yn "lleihau nifer y babanod a'u teuluoedd sy'n gorfod teithio i Loegr i gael gofal".

Dywedodd Mandy Cooke, Rheolwr y Gwasanaeth Newyddenedigol, eu bod nhw'n "hynod falch" o'r uned newydd.

"Bydd y cyfleusterau newydd yn helpu ein tîm newyddenedigol i sicrhau bod babanod gwael neu sydd wedi'u geni cyn pryd yn parhau i dderbyn gofal rhagorol yn y gogledd am flynyddoedd i ddod," meddai.

Bydd yr adain newydd yng Nghanolfan Canser Felindre, gwerth £535,000, yn cyflymu mynediad cleifion difrifol wael at driniaeth, yn ôl swyddogion iechyd.

Ffynhonnell y llun, Macmillan Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Steffan Lewis AC, sydd yn dioddef o ganser pedwerydd cyfnod ei hun, oedd yn gyfrifol am agor yr uned newydd yn Felindre

Dywedodd yr Oncolegydd Ymgynghorol Dr Hilary Williams: "Bydd [yr uned] yn ein galluogi i foderneiddio'r gofal a'r driniaeth a dderbynnir gan ein cleifion argyfwng."

Yn ôl swyddogion iechyd bydd yr uned yn helpu cleifion canser sy'n cael ei symud i'r Uned Asesu, gan gynnwys rhai sydd angen radiotherapi ar frys neu rhai sydd â'u cyflwr yn gwaethygu yn ystod triniaeth arferol.

Bydd gan yr uned wasanaeth deietig, therapi galwedigaethol a ffisiotherapi hefyd, yn ôl Macmillan Cymru - sydd wedi cyfrannu £340,000 tuag at y prosiect.

'Cyflymu asesiadau'

Dywedodd pennaeth gwasanaethau'r elusen, Richard Pugh: "Bydd y tîm newydd yn cyflymu asesiadau cychwynnol o'r dechrau i'r diwedd, rhoi cynlluniau gofal yn eu lle a chefnogi pobl i alluogi iddynt ddychwelyd adref yn ddiogel mor fuan â phosib."

Cafodd yr uned newydd ei hagor ddydd Mercher gan yr Aelod Cynulliad Steffan Lewis, sydd yn dioddef o ganser ei hun.

Wrth siarad cyn yr agoriad swyddogol, dywedodd Mr Lewis fod ganddo brofiad personol o'r gwaith "ardderchog" sy'n cael ei wneud yn yr ysbyty.

"Fel claf preswyl fy hun, gwyddwn y bydd yr un lefel o urddas a thosturi - sy'n ganolog i ethos Felindre - yn nodweddiadol o'r uned newydd hefyd," meddai.

Mae disgwyl i ganolfan canser newydd agor yn Felindre yn 2022.