Staff yn protestio yng ngharchardai Wrecsam ac Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Protest gweithwyr Carchar y Berwyn, Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dros 100 o bobl yn y brotest y tu allan i Garchar y Berwyn, Wrecsam

Mae dwsinau o swyddogion a staff gweinyddol y gwasanaeth carchar wedi cynnal protestiadau y tu allan i ddau o garchardai Cymru.

Roedd dros 100 o weithwyr yn protestio ar safle Carchar y Berwyn yn Wrecsam a dros 50 yn Abertawe yn erbyn yr hyn mae cynrychiolwyr undeb yn ei ddisgrifio fel "gwaethygiad na welwyd o'r blaen mewn safonau iechyd a diogelwch yn y chwe blynedd diwethaf".

Dywed y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod y protestiadau yn anghyfreithlon, gan rybuddio staff y gallen nhw golli rhan o'u cyflog a wynebu camau disgyblu.

Erbyn prynhawn dydd Gwener, roedd y gweithwyr yng ngharchardai Cymru wedi dychwelyd i'r gwaith.

Mae protestiadau tebyg wedi eu cynnal hefyd yn y rhan fwyaf o garchardai Lloegr, ac mae'r Weinyddiaeth yn mynd i'r llys i'w hatal.

Fe ofynnodd undeb Cymdeithas y Swyddogion Carchar i aelodau wrthdystio ym meysydd parcio'r carchardau o 7:00 ddydd Gwener "nes derbyn gorchymyn i'r gwrthwyneb".

Mae'n dilyn adroddiad ddydd Iau yn beirniadu'r "diffyg rheolaeth peryglus" yng Ngharchar Bedford ond mae cynrychiolwyr hefyd yn bryderus am safonau diogelwch yn gyffredinol mewn carchardai yn y blynyddoedd diwethaf.

'Digon yw digon'

Ddechrau Medi fe ddywedodd cadeirydd yr undeb, Mark Fairhurst fod Carchar y Berwyn yn "un o garchardai mwyaf treisgar Prydain", gan alw am ddiogelu staff trwy adael iddyn nhw ddefnyddio'r chwistrell lonyddu PAVA (Pelargonic Acid Vanillyamide).

Dywedodd ysgrifennydd yr undeb, Steve Gillan mai bwriad y gweithredu yw tynnu sylw'r Llywodraeth a'r cyhoedd at "gynnydd mewn ymddygiad treisgar, mwy o gyffuriau, mwy o hunan-niweidio a phopeth a ddaw yn sgil hynny" o fewn carchardai Cymru a Lloegr.

"Dan y ddeddfwriaeth [iechyd a diogelwch] mae'r Llywodraeth a'r cyflogwr â dyletswydd i ofalu am fy aelodau," meddai, gan ychwanegu ei fod "wedi cael digon" o glywed am achosion o ymddygiad treisgar at swyddogion carchar.

"Digon yw digon... mae angen i weinidogion reoli'r hyn sy'n digwydd."

Disgrifiad o’r llun,

Staff y tu allan i Garchar Abertawe

Mae'r undeb yn cynrychioli 20,000 o aelodau, sef tua 90% o staff carchardai Cymru a Lloegr.

Dywed y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod yn cymryd camau cyfreithiol i stopio'r protestiadau, wrth erfyn ar swyddogion carchar i ddychwelyd i'r gwaith yn unol â disgwyliadau'r "gyfraith a'r gwasanaeth carchar".

"Mae'n anghyfrifol i'r [undeb annog eu haelodau i weithredu'n anghyfreithlon fel hyn," dywedodd y gweinidog carchardai, Rory Stewart. "Rydym yn gweithredu ein cynlluniau wrth gefn ond, trwy beidio â dod i'r gwaith, mae'r swyddogion carchar yma yn creu bygythiad i'w cydweithwyr ac i garcharorion."

Ychwanegodd Mr Stewart eu bod wedi cymryd camau i ddiogelu swyddogion carchar, gan gynnwys recriwtio 3,500 yn rhagor o swyddogion, dyblu hyd y ddedfryd carchar bosib am ymosodiadau arnyn nhw, a £40m at wella adeiladau carchar a mynd i'r afael â'r broblem cyffuriau mewn carchardai.