Kirsty Williams yn barod i ystyried 'aros yn y cabinet'
- Cyhoeddwyd
Mae'r AC Kirsty Williams wedi dweud ei bod yn barod i barhau yn Ysgrifennydd Addysg o dan brif weinidog newydd cyn belled bod y telerau a gytunodd gyda Carwyn Jones yn parhau.
Fis Ebrill fe gyhoeddodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y bydd yn camu o'r neilltu fel arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru yn yr hydref a hynny wedi iddo fod naw mlynedd wrth y llyw.
Fe ymunodd Ms Williams â Llywodraeth Cymru yn 2016 wedi i Lafur beidio a chael mwyafrif yn yr etholiad ym Mai.
Fe ddaeth Ms Williams i gytundeb gyda Mr Jones am yr hyn y dylid ei flaenoriaethu - yn eu plith codi nifer nyrsys a thai fforddiadwy a maint dosbarthiadau babanod.
Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement Radio Wales dywedodd: "Mae'r cytundeb a roddodd le i mi yn y llywodraeth yn un a arwyddwyd gennyf i a'r prif weinidog presennol."
'Angen cyrraedd y nod o godi safonau'
"Os wyf yn aros yn y rôl benodol yma, mi fyddai'n rhaid i'r prif weinidog newydd gytuno gyda'r blaenoriaethau yr wyf i a Carwyn Jones wedi ymrwymo iddynt," meddai Ms Williams.
"Ar y funud be sy'n bwysig yw ein bod yn nodi beth sydd angen ei wneud i drawsnewid y system addysg yn ein hysgolion, colegau, prifysgolion ac mewn addysg oedolion.
"Rwyf am sicrhau bod yr amser sydd gennyf yn cael ei dreulio ar wneud hyn fel ein bod yn cyrraedd y nod o godi safonau a sicrhau fod pawb yng Nghymru yn cael cyfle i gyflawni eu potensial drwy'r system addysg."
Hyd yma dim ond yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford a'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething sydd wedi dweud eu bod yn dymuno olynu Mr Jones fel prif weinidog ac arweinydd y Blaid Lafur.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2016
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2018