Milwyr Bannau Brycheiniog: Dau ddyn yn ddieuog

  • Cyhoeddwyd
Corporal James Dunsby, yr Is-gorporal Maher a'r Is-gorporal Craig RobertsFfynhonnell y llun, Y Weinyddiaeth Amddiffyn
Disgrifiad o’r llun,

Corporal James Dunsby, yr Is-gorporal Edward Maher a'r Is-gorporal Craig Roberts

Mae dau ddyn oedd yn gwadu cyhuddiadau o berfformio'u dyletswyddau'n esgeulus wedi i dri milwr farw yn ystod ymarferiad SAS wedi eu cael yn ddieuog mewn llys milwrol.

Fe ddyfarnodd y barnwr yn y gwrandawiad yn Wiltshire bod dim achos yn erbyn y ddau swyddog - sydd ond yn cael eu henwi fel milwr 1A a milwr 1B - mewn cysylltiad â marwolaethau'r Corporal James Dunsby, yr Is-gorporal Craig Roberts a'r Is-gorporal Edward Maher ar un o ddiwrnodau poethaf 2013.

Yn ôl y Barnwr-Adfocad Jeff Blackett, roedd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch o'r farn nad y goruchwylwyr unigol oedd yn gyfrifol am yr hyn aeth o'i le ym Mannau Brycheiniog, ond corff o fewn y lluoedd arfog na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol.

Ond yn ôl gweddw'r Corporal Dunsby, mae yna ddiffyg arweiniad "annerbyniol" hyd heddiw ar gyfer swyddogion sy'n goruchwylio ymarferiadau o'r fath mewn tywydd poeth.

'Asesiadau risg cyffredinol'

Roedd y llys eisoes wedi clywed gan arolygydd iechyd a diogelwch bod yna ddiffyg hyfforddiant o ran asesu risg a salwch gwres.

Wrth ddod â'r achos i ben, dywedodd y barnwr: "Os nad ydy person yn cael hyfforddiant… ac yn gwneud beth mae eraill wedi gwneud yn y gorffennol… mae'n hollol resymol iddo barhau i wneud yr un peth.

"Mae'n amlwg bod yna ddefnydd helaeth o asesiadau risg cyffredinol. Roedd hyn yn amlwg yn gamgymeriad, ond mae hefyd yn amlwg na fyddai unrhyw un ar yr un lefel â'r diffynyddion [o fewn y fyddin] wedi gwneud unrhyw beth yn wahanol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys bod disgwyl i'r milwyr oedd yn gobeithio ymuno â'r SAS gario hyd at 27 cilogram (4 stôn) o bwysau ar eu cefnau ar draws y Bannau

Gan gydymdeimlo â theuluoedd y milwyr fu farw, a pharchu eu hymddygiad "urddasol eithriadol" gydol y gwrandawiad, dywedodd y barnwr ei fod yn gobeithio eu bod yn deall y rhesymau dros ei ddyfarniad.

"Fe gawsoch wybod na fyddai unrhyw un yn cael eu herlyn. Gofynnodd un ohonoch chi, yn gyfiawn, am adolygu'r penderfyniad yna.

"Rydych chi wedi aros yn hir i'r mater ddod i'r llys… ac fe allwch chi fod wedi disgwyl gallu tynnu llinell o dan y cyfan."

Dywedodd bod y marwolaethau'n ganlyniad methiannau yn nhrefniadau rheoli'r lluoedd arfog.

"Yn fy marn i, fe wnaeth y ddau ddiffynnydd eu gorau… gan ystyried y diffyg hyfforddiant a'r diwylliant ar y pryd," meddai.

'Diffyg arweiniad brawychus'

Roedd ymateb chwyrn gan weddw'r Corporal Dunsby ar ddiwedd yr achos.

Dywedodd Bryher Dunsby bod y gwrandawiad "wedi amlygu'r gwirionedd brawychus bod yna dal ddim arweiniad swyddogol ynghylch salwch gwres ar gyfer rheiny sy'n rheoli ymarferion hyfforddi gwytnwch yn y Fyddin Brydeinig bum mlynedd yn ddiweddarach".

"Mae hynny'n du hwnt i annerbyniol, ac yn dangos anwybodaeth yn wyneb angen hanfodol. Mae'n ymddangos nad ydy tair marwolaeth yn ddigon i arwain at newid."

Mae Mrs Dunsby yn galw ar bennaeth y fyddin i roi mwy o flaenoriaeth i'r mater ac adnoddau ychwanegol er mwyn llunio a gweithredu canllawiau newydd.

'Diogelwch yn flaenoriaeth'

Dywedodd llefarydd ar ran y fyddin eu bod yn parhau i gydymdeimlo â'r teuluoedd, a bod diogelwch a lles staff yn flaenoriaeth.

Ychwanegodd: "Rydym wedi gweithredu nifer o newidiadau yn dilyn y digwyddiadau trasig yma, yn arbennig mewn cysylltiad â salwch gwres a hyfforddiant, i sicrhau nad oes digwyddiad fel hyn eto."

Mae'r fyddin hefyd yn pwysleisio eu bod wedi diweddaru eu canllawiau deirgwaith ers 2013, a'u bod yn parhau gydag ymchwil i effeithiau salwch gwres fel bod eu hyfforddiant yn cydfynd â'r safonau iechyd uchaf posibl.

Mae milwr 1A yn dal yn swyddog yn y fyddin, a milwr 1B bellach wedi gadael y lluoedd arfog.

Dywedodd Louis Mably QC ar ran yr erlyniad na fydd camau i apelio yn erbyn y dyfarniad.