Achos cam-drin Y Barri: Cyhuddiadau yn rhai 'ffug'
- Cyhoeddwyd
Mae pâr priod o'r Barri, sy'n gwadu cyhuddiadau hanesyddol o dreisio a cham-drin rhyw yn erbyn plant, wedi dweud fod y cyhuddiadau yn eu herbyn yn rhai ffug, gan bobl sydd eisiau hawlio "iawndal".
Mae Avril Griffiths, 61, a Peter Griffiths, 65, wedi'u cyhuddo o gyfres o droseddau rhyw yn y 1980au a'r 90au.
Yn gynharach yn yr achos fe gafodd y ddau eu disgrifio yn y llys fel "Fred a Rose West" ardal Y Barri.
Fe glywodd y rheithgor gyfweliadau heddlu ble mae Mr Griffiths yn rhoi'r bai ar "ddiwylliant o fod eisiau iawndal y dyddiau yma," a dywedodd fod y cyhuddiadau yn ei erbyn yn rai "ffug".
'Ffwlbri'
Mewn un o'r cyfweliadau mae Mr Griffiths yn cyfaddef cael rhyw gydag un o'r achwynwyr, ond dywedodd ei bod hi'n hŷn na 16 oed.
Yn y cyfweliad dywedodd fod "un peth wedi arwain at y llall" gydag un o'r achwynwyr, ond bod y cyhuddiad ei fod wedi ei threisio pan oedd hi'n saith neu wyth oed yn "ffiaidd".
Mae Mr Griffiths wedi cyfaddef tynnu lluniau bronnoeth o un o'r achwynwyr, ond dywedodd ei bod hi'n 16 neu 17 oed ar y pryd, gan ddweud hefyd mai ei syniad hi oedd y lluniau.
Yn ystod cyfweliadau gyda'r heddlu roedd Avril Griffiths wedi cael ei chyhuddo o afael yn un o'r achwynwyr tra bod ei gŵr yn ei threisio.
Ei hymateb oedd bod "popeth yn gelwydd".
Dywedodd bod tad un o'r achwynwyr wedi rhoi caniatâd iddyn nhw dynnu lluniau.
Pan ofynnwyd iddi a oedd hi "erioed wedi bod mewn cysylltiad rhywiol" gyda'r achwynwr, dywedodd wrth swyddogion yr heddlu: "Dim o be dwi'n gofio."
'Dim camau pellach'
Fe glywodd y llys hefyd ddatganiad gan gyn-swyddog CID yn Y Barri sydd bellach wedi ymddeol, wnaeth arestio a holi'r diffynyddion.
Dywedodd ei fod wedi derbyn llun gan un o'r achwynwyr ohoni hi yn ei harddegau cynnar yn fronnoeth gyda Mr a Mrs Griffiths.
Ychwanegodd fod y diffynyddion wedi dweud wrtho fod yr achwynwr yn 16 neu 17 ar y pryd, a bod mam yr achwynwr hefyd yn credu ei bod hi'n 16 neu 17.
Dywedodd bod yr achwynwr wedi gwneud sawl honiad yn erbyn nifer o ddynion a oedd yn gweithio i "fad achub y Barri".
Ar ôl cyfweld y dynion a pharatoi ffeil "gynhwysfawr" i Wasanaeth Erlyn y Goron, y cyngor oedd i "beidio â chymryd camau pellach".
Mae Avril a Peter Griffiths yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn ac mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Medi 2018
- Cyhoeddwyd11 Medi 2018
- Cyhoeddwyd12 Medi 2018