Baw adar yn cuddio £800,000 o ddifrod ar Bont Conwy

  • Cyhoeddwyd
Gwaith ar bont dros Afon Conwy

Mae cost atgyweirio Pont Conwy wedi codi i dros £1.5m wedi i gontractwyr ddarganfod mwy o ddifrod i'r bont oedd yn cael ei guddio gan faw adar.

O ddarganfod cyrydiant pellach, oedd wedi ei orchuddio gan y baw, cododd pris y cytundeb gwreiddiol o £687,705 i £1,531,683.

Mae prif weithredwr Cyngor Conwy wedi pwysleisio nad yw'n achos o orwario ar ran y cyngor, ond yn "ailasesiad o beth oedd angen ei wneud".

Serch hynny, mae'r Cynghorydd Andrew Wood wedi dweud nad yw'n gallu credu nad oes "mwy o dwrw" ynglŷn â'r pris newydd, a'i fod yn dalp mawr o incwm y cyngor i'w wario.

Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd y gwaith ar Bont Conwy ym Mai 2016, cyn sylwi bod angen mwy o waith ar y bont erbyn Medi 2016

Yn ôl adroddiad cafodd ei gyflwyno o flaen y pwyllgor archwilio, daeth yr adeiladwyr o hyd i "waith ychwanegol sylweddol" ar y safle, na chafodd ei ddarganfod wrth brisio'r gwaith yn wreiddiol.

Nododd yr adroddiad iddo ddod i'r amlwg bod y gwaith haearn wedi cyrydu a bod y "gwaith ychwanegol dan sylw wedi effeithio'n sylweddol ar gost y gwaith".

Wrth ymateb i'r cynnydd mewn pris, dywedodd y Cynghorydd Andrew Wood: "Galla' i ddim credu nad ydynt wedi gwneud mwy o dwrw am gost atgyweirio Pont Conwy, sy'n fwy na £844,000.

"Mae'r pris yn agosáu at £1m yn ychwanegol, ac mae agosáu at £1m yna werth tua 0.4% o incwm £200m y cyngor, felly mae'n dipyn o arian.

"Dwi'n poeni nad oes 'na fwy o wybodaeth allan yna a hoffwn wybod os oes yna adroddiad yn cael ei ryddhau?"

Mae'r Cynghorydd Wood hefyd wedi mynegi y dylai'r cyngor ddigolledu cyfran o'r arian a dalwyd i'r ymgynghorwyr ddyluniodd y broses dendro.

'Ailasesiad' yn hytrach na gorwario

Yn ôl Prif Weithredwr Cyngor Conwy, Iwan Davies, daeth y contractwyr o hyd i waith "roedd angen ei wneud beth bynnag".

Esboniodd Mr Davies: "Fe wnaethant arolwg o'r bont, ac nid oedd yn bosib adnabod maint y gwaith am fod cyrydiant y gwaith haearn wedi ei guddio gan faw colomennod.

"Felly, yr hyn a welwyd yw y dylai'r cytundeb fod am y swm mwy o faint, ond yn gynharach"

Ychwanegodd: "Doedd ddim yn orwario, fel y cyfryw, roedd yn ailasesiad o beth oedd angen ei wneud.

"Bu adroddiad manwl, felly dydw i ddim yn rhagweld unrhyw barhad i hyn."