Cyfnod enwebu arweinydd nesaf Llafur Cymru ar agor

  • Cyhoeddwyd
Carwyn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Carwyn Jones yn camu i'r neilltu ym mis Rhagfyr

Mae'r cyfnod enwebu ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru wedi agor ddydd Iau.

Mae arweinydd presennol y blaid a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi rhoi "hysbysiad ffurfiol" o'i fwriad i gamu i'r neilltu, ac felly wedi dechrau'r ras am arweinyddiaeth y blaid yn swyddogol.

Rhaid i ymgeiswyr fod â chefnogaeth pum Aelod Cynulliad arall er mwyn sicrhau eu lle ar y papur pleidleisio.

Agorodd y cyfnod enwebu am 12:00 ddydd Iau, ac yn parhau ar agor tan 12:00 ar ddydd Mercher 3 Hydref.

Mae Mr Jones yn bwriadu ymddiswyddo wedi ei sesiwn holi'r prif weinidog olaf ar 11 Rhagfyr.

Cyhoeddodd ei fod am adael ei rôl yn ystod cynhadledd Llafur Cymru ym mis Ebrill.

Mae'r mwyafrif o ACau wedi datgan eu cefnogaeth i'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, tra bod Vaughan Gething hefyd wedi sicrhau'r pum enw angenrheidiol.

Dywedodd Mr Jones ar ddydd Llun ei fod yn barod i gefnogi Eluned Morgan yn dilyn ffrae ynglŷn â diffyg menywod ar y papur pleidleisio.

Roedd Ms Morgan eisoes wedi sicrhau cefnogaeth pedwar AC, felly mae pleidlais y Prif Weinidog mwy neu lai yn cadarnhau ei lle yn y ras.

Caiff y papurau pleidleisio eu rhyddhau ar ddydd Gwener 9 Tachwedd, cyn cyhoeddi'r enillydd ar 6 Rhagfyr.