Ann Jones AC yn sicrhau pumed enwebiad i Vaughan Gething
- Cyhoeddwyd

Mae Vaughan Gething wedi derbyn ei bumed enwebiad i sefyll er mwyn olynu Carwyn Jones fel arweinydd Llafur Cymru
Mae Ann Jones, AC Dyffryn Clwyd, wedi cyhoeddi ei bod yn enwebu Vaughan Gething i fod yn arweinydd newydd ar Lafur Cymru.
Roedd Mr Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd presennol, un enwebiad yn brin i sefyll yn y ras cyn i Ms Jones ei enwebu.
Er mwyn sicrhau lle ar y papur pleidleisio mae'n rhaid i unrhyw ymgeiswyr ddenu cefnogaeth o leiaf pump o ACau'r blaid.
Wrth ddatgan ei chefnogaeth dywedodd Ms Jones, sydd hefyd yn Ddirprwy Lywydd yn Cynulliad, y byddai Mr Gething yn gallu "uno ein plaid, a thynnu aelodau o bob cefndir cyfoethog ynghyd".
Ychwanegodd fod ganddo'r gallu i "wneud y penderfyniadau iawn er budd cymunedau ledled Cymru".
Mae Mark Drakeford eisoes wedi derbyn 13 enwebiad i fod yn arweinydd newydd ar Lafur Cymru, ac er bod Eluned Morgan, Huw Irranca-Davies ac Alun Davies wedi datgan eu bod am sefyll, nid oes yr un o'r tri wedi derbyn enwebiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd25 Mai 2018
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2018