Ysgol Henry Richard yn Nhregaron ar agor i bawb
- Cyhoeddwyd
Mae plant adran gynradd Ysgol Henry Richard yn Nhregaron wedi symud i'w hadeilad newydd - fis yn ddiweddarach na'r disgwyl.
Ddiwedd mis Awst fe ddaeth hi i'r amlwg na fyddai'r adeiladau newydd, sydd wedi cael eu codi ar safle'r ysgol uwchradd yn y dref, yn barod ar ddechrau'r tymor academaidd newydd.
Fe gaeodd ysgolion cynradd Llanddewi Brefi a Thregaron ar ddiwedd y tymor ysgol diwethaf, ond bu'n rhaid i'r disgyblion fynd yn ôl i'w hên adeiladau am y mis cyntaf er mwyn i'r gwaith adeiladu gael ei orffen.
Cafodd yr ysgol ei chau ddydd Iau diwethaf er mwyn symud popeth draw i'r adeiladau newydd, sydd wedi cael eu codi fel rhan o gynllun gwerth £5m gan Gyngor Sir Ceredigion i greu ysgol 3-16 oed.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2018
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2014