Rali ar fin creu hanes gyda chymal ar ffyrdd cyhoeddus
- Cyhoeddwyd
Bydd hanes yn cael ei greu yng ngogledd Cymru y penwythnos yma pan fydd rhan o bencampwriaeth ralio'r byd yn cael ei chynnal ar ffyrdd cyhoeddus - y tro cyntaf i hynny ddigwydd yng Nghymru.
Mae Rali GB Cymru yn dechrau yn Abergele nos Iau, gyda 150 o yrwyr yn cystadlu yn rownd 11 Pencampwriaeth y Byd 2018.
Ond mae newid yn y gyfraith wedi caniatáu i'r trefnwyr gynnal "diweddglo syfrdanol" ddydd Sul ar rai o strydoedd caeëdig Llandudno.
Ymhlith y cystadleuwyr fydd y pencampwr byd presennol, Elfyn Evans - y Cymro cyntaf i ennill y ras.
Mae disgwyl y bydd degau o filoedd o gefnogwyr yn gwylio'r achlysur.
Mae'r cystadlu'n dechrau am 19:00 nos Iau ar gwrs rasio Tir Prince o dan y llif oleuadau.
Ddydd Gwener, fe fydd y ras yn symud i Goedwig Clocaenog ger Rhuthun, a llwybr newydd yn Eryri ger Yr Wyddfa.
Bydd yna bum cymal yn ardal Aberystwyth ddydd Sadwrn cyn cymal hanesyddol Stryd y Gogarth ddydd Sul, sydd â llinell derfyn yn ardal y prom.
200 milltir (318 cilomedr) yw hyd y cwrs cyfan.
Mae'r digwyddiad yn cael ei hysbysebu fel "corwynt o rali".
Dyma'r "ras fwyaf cyffrous am y teitl mewn cof," yn ôl rheolwr gyfarwyddwr Rali GB Cymru, Ben Taylor, sy'n rhestru ffactorau fel "arwr lleol ym mherson Elfyn Evans" a'r "holl gymalau clasurol yng nghoedwigoedd Cymru".
Ychwanegodd: "Gyda'i gilydd mi fydd yn bedwar diwrnod anhygoel o adloniant arwrol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2017