Arweinydd y Gwyrddion yn ymuno â Phlaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Grenville Ham
Disgrifiad o’r llun,

Grenville Ham oedd arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru

Mae arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru wedi cyhoeddi ei fod wedi ymuno â Phlaid Cymru.

Dywedodd Grenville Ham fod pleidlais gan aelodau'r Blaid Werdd yng Nghymru i beidio gwahanu oddi wrth y Blaid Werdd yn Lloegr wedi ei gwneud hi'n amhosib iddo barhau'n aelod.

Roedd Mr Ham am weld Plaid Werdd annibynnol yng Nghymru, ond cafodd hyn ei wrthwynebu gan 65% o'r aelodau wnaeth bleidleisio ym mis Gorffennaf.

"Ar ôl i'r aelodau benderfynu eu bod am aros mewn plaid oedd yn gwasanaethu dwy wlad, roeddwn o'r farn nad oedd modd parhau'n aelod ac felly rwyf wedi ymddiswyddo fel arweinydd," meddai.

Gwnaeth Mr Ham ei gyhoeddiad ar drothwy cynhadledd flynyddol Plaid Cymru yn Aberteifi.