Plaid Cymru yn pleidleisio o blaid cyfreithloni cyffuriau
- Cyhoeddwyd

Dylai cyffuriau anghyfreithlon gael eu cyfreithloni, meddai cynrychiolwyr Plaid Cymru yn ystod cynhadledd y blaid yn Aberteifi.
Yn ôl aelodau'r blaid mae'r 'war on drugs' wedi bod yn "fethiant llwyr", a bod trin unigolion sydd yn gaeth i gyffuriau fel troseddwyr "yn gwneud dim i'w helpu".
Fe bleidleisiodd cynrychiolwyr o blaid gwneud y safbwynt yn rhan o bolisi swyddogol Plaid Cymru ar ddydd Gwener.
Dywedodd Plaid Cymru ifanc "nad ydynt yn cefnogi'r defnydd o sylweddau o'r fath", ond yn ychwanegu fod "bod yn gaeth yn salwch yn hytrach na throsedd".
Mae gan Plaid Cymru bedwar AS yn San Steffan, lle mae polisïau sy'n ymwneud â chyffuriau yn cael ei rheoli.
Roedd cynnig gan Plaid Ifanc yn galw ar y Swyddfa Gartref i waredu cofnod troseddol y rhai sydd wedi eu cyhuddo o fod â chyffuriau yn eu meddiant pan nad oedd unrhyw amgylchiadau arbennig.
Dywedodd Carmen Smith o Plaid Ifanc fod y polisïau presennol tuag at gyffuriau yn "trin unigolion sy'n defnyddio cyffuriau am resymau meddygol neu hamddenol - a ddim yn gwneud niwed i neb - fel troseddwyr".
"Yn bwysicach na hynny, mae'r dulliau presennol o ddelio â defnydd cyffuriau yn methu'r rhai mwyaf bregus," meddai, gan gyfeirio at ddefnydd y cyffur Spice yng Nghaerdydd.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, Arfon Jones, fod tair dadl yn erbyn cyfreithloni: y byddai'n arwain at gynnydd yn y defnydd o gyffuriau, annog twristiaeth gyffuriau a chynyddu troseddau sydd yn ymwneud â chyffuriau.
Ni ddigwyddodd yr un o'r rhain ym Mhortiwgal yn dilyn cyfreithloni yn 2001, meddai Mr Jones.
Ond, dywedodd un cynrychiolydd mai cyfreithloni byddai'r "cam cyntaf i bobl sydd eisiau gweld deddfwriaeth", a bod pobl sy'n cymryd cyffuriau yn eu hugeiniau yn dioddef o broblemau iechyd meddwl pan yn hŷn.
Ychwanegodd ei fod wedi profi "bwlio ar-lein" yn sgil ei agwedd tuag at gyfreithloni.
Mae cynnig Plaid Ifanc yn galw ar bob comisiynydd i gyflwyno trefn newydd a fyddai'n gwyro achosion o fod â chyffuriau yn eich meddiant i ffwrdd o asiantaethau cyfiawnder troseddol tuag at addysg ac iechyd cyhoeddus.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2018
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2018