'Gobaith ffug' i fachgen am driniaeth canabis
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni bachgen epileptig wedi beirniadu'r broses o geisio am ganabis ar bresgripsiwn gan ddweud ei fod wedi arwain at "obeithion ffug".
Cred Rachel Rankmore a Craig Williams, o Gaerdydd, ydy y gallai'r canabis helpu rheoli ymosodiadau epileptig eu mab, Bailey.
Yn ôl y rhieni doedd ymgynghorydd eu mab ddim yn fodlon gwneud cais am ganabis meddygol ar ei ran.
Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi dweud eu bod "bob tro'n gweithredu er budd y claf".
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Sajid Javid y bydd meddygon arbenigol yn gallu cynnig moddion â chanabis ynddynt yn gyfreithlon cyn hir, ac yn y cyfamser bod modd i ymgynghorwyr wneud cais i banel arbenigol.
'Lleddfu'r boen'
Roedd teulu Bailey wedi gofyn i'r ymgynghorydd wneud cais i'r panel arbenigol, ond cawson wybod nad oedd y cais yn mynd i gael ei wneud.
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd y byddent yn barod i drafod triniaeth Bailey gyda'r teulu.
Dywedodd Mr Williams bod y teulu "wirioneddol eisiau'r canabis meddygol" i "leddfu rhywfaint o'i boen".
"Fe allai fod fel y plentyn welwch chi ar y teledu ar ei feic neu mas gyda'i ffrindiau. Ond dyw e ddim."
"Mae e wedi brwydro am 14 mlynedd a hanner, a brwydro'n galed hefyd.
"Ni wedi dweud wrtho am beidio â rhoi'r gorau iddi, a dydyn ni ddim am roi'r gorau iddi."
Dechreuodd Bailey, sydd â syndrom Lennox-Gastaut, gael pyliau pan oedd yn ddwy oed, cyn dod yn fwy cyson wrth iddo dyfu'n hyn.
Mae'n cymryd chwe gwahanol fath o feddyginiaeth i'w rheoli.
Yn y gorffennol, mae rhieni Bailey wedi bod yn rhoi'r cyffur cyfreithiol CBD i'w mab, sy'n costio £290 y botel, gan honni ei fod yn gwella ansawdd ei fywyd.
Mae canabis ar hyn o bryd yn cael ei ystyried yng nghategori un o ran cyffuriau, sy'n golygu nad yw'n cael ei weld fel rhywbeth sy'n therapiwtig.
Fe ddylai newidiadau'r Swyddfa Gartref osod rhai mathau o ganabis yng nghategori dau, gan olygu eu bod â'r potential o ddefnydd meddygol.
'Newid diwylliannol'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Rydym yn cydymdeimlo gyda theuluoedd sy'n wynebu sefyllfaoedd anodd wrth iddyn nhw chwilio am driniaeth.
"Mae'n rhaid i unrhyw gwrs o driniaeth gyda chanabis sy'n cael ei argymell gael ei arwain yn glinigol."
Dywed Llywodraeth Cymru pe bai'r ddeddfwriaeth berthnasol yn cael sêl bendith Llywodraeth y DU, yna fe fyddai meddyginiaethau canabis ar gael i glinigwyr yng Nghymru i'w roi ar bresgripsiwn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2017