Angladd Bradley John, 14 oed, yn 'ddathliad o'i fywyd'

  • Cyhoeddwyd
Angladd

Cafodd angladd bachgen ifanc 14 oed, a fu farw yn yr ysbyty ar ôl i'r gwasanethau brys gael eu galw i ysgol uwchradd yn Llanelli, ei gynnal mewn amlosgfa ym Margam ddydd Llun.

Fe gafodd Bradley John ei ddarganfod gan ei chwaer yn Ysgol Uwchradd Gatholig St John Lloyd a'r gred yw ei fod wedi lladd ei hun.

Dywedodd ei dad, Byron John, fod yr angladd yn "ddathliad o'i fywyd byr" a bod y teulu eisiau ei gofio fel y bachgen "hyfryd a charismataidd" yr oedden nhw'n ei adnabod.

Roedd Bradley John yn farchogwr brwd, ac roedd Mr John wedi gofyn i aelodau o'r gymuned farchogaeth i wisgo dillad hela ar gyfer yr angladd.