Nodi dyddiad dechrau achos llofruddiaeth Pentywyn
- Cyhoeddwyd
Bydd dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio dyn 54 oed yn Sir Gaerfyrddin yn sefyll ei brawf ym mis Mawrth.
Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe fe wnaeth Jeffrey Ward, 40 oed, ond siarad i gadarnhau ei enw, ei oedran a'i genedligrwydd.
Cafwyd hyd i gorff Simon Clark mewn maes carafanau ym Mhentywyn ar 28 Medi.
Dywedodd y Barnwr Keith Thomas, wrth Jeffrey Ward 40 oed, a thri diffynnydd arall y bydd yr achos yn eu herbyn yn dechrau ar 18 Mawrth 2019.
Mae Kirston Macklin, 52, Linda Rowley, 52, a Julie Harris, 46, wedi eu cyhuddo o roi cymorth i droseddwr.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dal yn chwilio am ddyn arall, Steven Baxter, mewn cysylltiad â'r llofruddiaeth ac mae gwobr o £5,000 yn cael ei gynnig am wybodaeth fyddai'n arwain at ddod o hyd iddo.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd29 Medi 2018