Morgan: Llafur 'wedi methu' ar yr economi
- Cyhoeddwyd
Mae un o'r ymgeiswyr i fod yn arweinydd nesaf Llafur yng Nghymru yn honni fod y blaid wedi methu creu'r argraff y dylai fod wedi ei gael ar yr economi dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Llafur sydd wedi arwain bod un o Lywodraethau Cymru ers datganoli yn 1999.
Dywedodd Eluned Morgan fod effeithiau ofnadwy dad-ddiwydiannu "yn dal gyda ni" a bod 23% o bobl Cymru yn byw mewn tlodi.
Fe gafodd Llywodraeth Cymru gais i ymateb i sylwadau Ms Morgan.
Wrth amlinellu ei chynlluniau i hybu'r economi, dywedodd: "Gall Llafur Cymru fod yn falch o nifer o gyflawniadau dros y ddau ddegawd diwethaf yng Nghymru, ond rhaid i ni gyfadde' mai un maes lle nad ydyn wedi creu'r argraff y dylen ni fod wedi ei gael yw ar yr economi.
"Mae'n boenus bod effeithiau ofnadwy cyfnod dad-ddiwydiannu Thatcher yn dal gyda ni, ynghyd â'r cur pen parhaus o weld 23% o bobl Cymru yn byw mewn tlodi."
Dadlau am record yr 20 mlynedd diwethaf
Ychwanegodd: "Rhaid i ni weithredu gyda sioncrwydd i adeiladu sbringfwrdd er mwyn creu swyddi o safon ymhob cymuned a buddsoddiad go iawn yn ein gwasanaethau cyhoeddus er mwyn taclo'r dinistr o ddegawd o ddifrod gan lymder y Ceidwadwyr."
Mae cynlluniau Ms Morgan yn cynnwys sefydlu cronfa a fyddai'n buddsoddi yng nghwmnïau cynhenid mwyaf Cymru os oes ganddyn nhw'r potensial i fod yn arweinwyr byd eang.
Mae hi hefyd am ystyried cyflwyno math o "arian digidol cymunedol i Gymru" a fyddai'n cadw cymaint â £16bn o wariant blynyddol Llywodraeth Cymru ag sy'n bosib o fewn ffiniau'r wlad.
Wrth i'r blaid Lafur ethol ei phedwerydd arweinydd dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae llawer o'r dadlau wedi canolbwyntio ar ei record dros y cyfnod yna.
Ym mis Mai dywedodd un o'r ymgeiswyr eraill - yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething - ei fod wedi bod yn gamgymeriad gan Lywodraeth Cymru i rewi'r gwariant ar iechyd yn 2011, sef toriad mewn termau real.
Mae Mr Gething a Ms Morgan yn herio Mark Drakeford - yr Ysgrifennydd Cyllid presennol a fu'n ymgynghorydd arbennig am ddeng mlynedd i'r Llywodraeth pan oedd Rhodri Morgan yn brif weinidog - yn y ras am yr arweinyddiaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2018