Cyngor Môn wedi 'dinistrio' safle o ddiddordeb arbennig

  • Cyhoeddwyd
Traeth LleiniogFfynhonnell y llun, Gareth Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o'r cerrig hynafol bellach wedi cael eu symud

Mae safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig wedi cael ei "ddinistrio" gan weithwyr Cyngor Môn, yn ôl trigolion lleol.

Cafodd cerrig mawrion, sy'n dyddio 'nol i ddiwedd oes yr iâ, eu symud o draeth Lleiniog ger Llangoed, Ynys Môn ac yn ôl Gareth Phillips o Langoed, fe gafodd mawnogydd hynafol hefyd eu dinistrio.

Dywedodd Mr Phillips fod y gymuned leol "wedi eu llorio" gan y newyddion.

Yn ôl Cyngor Môn roedd gan y gweithwyr drwydded i gwblhau'r gwaith er mwyn rhwystro llifogydd ar ffordd gyfagos.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal ymchwiliad i ddarganfod os gafodd unrhyw nodweddion pwysig ar y safle eu difrodi neu os cafodd amodau'r drwydded eu torri.

Ffynhonnell y llun, Gareth Phillips

'Twp a thrist'

Roedd traeth Lleiniog yn gartref i nifer o gerrig mawrion oedd yn cynnig gwybodaeth ynglŷn ag ymddygiad rhewlifoedd.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fod y safle yn bwysig ar gyfer astudiaethau o oes yr iâ.

Ychwanegodd Mr Phillips fod gan y gweithwyr "ddim rheswm na thrwydded i fod yno", ac mai dyma "un o'r pethau fwyaf twp a thrist i mi ei weld yn cael ei wneud yn y DU".

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Môn eu bod wedi derbyn trwydded morol gan CNC i gwblhau'r gwaith a'u bod nhw wedi cadarnhau gyda Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd nad oedden nhw'n gweithio ar y safle oedd wedi ei warchod ar eu mapiau.