Brexit: Dylai ffermwyr Cymru gadw 'meddwl agored'
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi annog ffermwyr i gadw "meddwl agored" ynglŷn â'i hargymhellion ar gyfer ffermio a chefn gwlad wedi Brexit.
Dywedodd Lesley Griffiths AC yng nghynhadledd flynyddol NFU Cymru yn Llandrindod fod "ymateb gwych" wedi bod i ymgynghoriad ar gynlluniau ariannu dadleuol ar gyfer ffermio a chefn gwlad.
Mae Ms Griffiths wedi mynnu byddai'r 12,000 o ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu harolygu cyn bydd unrhyw benderfyniad ynglyn ag unrhyw newid posib.
Ond galwodd llywydd yr undeb, John Davies ar Ms Griffiths i wrando ar y rhai fyddai'n cael eu heffeithio fwyaf.
'Lladd ffermio'
Dywedodd un aelod o'r gynulleidfa fod Ms Griffiths mewn perygl o gael ei chofio fel y gweinidog wnaeth "ladd ffermio yng Nghymru, ein cefn gwlad, ein hiaith a'n diwylliant".
Fe wnaeth Ms Griffiths ymateb drwy ddweud na fyddai'n gadael i hynny ddigwydd.
Mae Llywodraeth Cymru yn argymell newid y cymhorthdal mae ffermwyr yn ei dderbyn dan Bolisi Amaeth Cyffredinol yr Undeb Ewropeaidd (UE) gyda dau gynllun grant newydd.
Byddai un yn ffocysu ar ystwythder economaidd, gyda'r llall yn talu ffermwyr i gynorthwyo'r amgylchedd.
Ond fe fydd y taliad mae nifer o ffermwyr yn ei gael sy'n dibynnu faint o dir sydd ganddyn nhw - ac sy'n gallu bod yn 80% o'u incwm - yn dod i ben.
Dywedodd Ms Griffiths y byddai'r cynlluniau newydd yn helpu i sicrhau fod ffermydd yn "wydn a chynaliadwy, beth bynnag yw'r cytundeb Brexit".
"Rwyf wastad wedi dweud bod rhaid darparu cefnogaeth barhaol i ffermwyr, ond mae'n rhaid i ni wneud hyn mewn ffordd well a llawer mwy deallus," meddai.
Mae hi wedi amlinellu tri ymrwymiad:
Na fydd penderfyniad yn cael eu cymryd nes i'r ymatebion ar yr argymhellion gael eu hadolygu i gyd;
Bydd dim newid i daliadau presennol heb ymgynghori pellach;
Bydd dim newid nes bydd y cynlluniau newydd yn barod i'w gweithredu.
Y bwriad yw gweithredu'r cynlluniau newydd o 2020 ymlaen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd7 Medi 2018