'Dylai'r DU ddim mynd i ryfel heb ganiatâd y Cynulliad'
- Cyhoeddwyd
Dylai gweinidogion Llywodraeth y DU orfod gofyn i'r Cynulliad cyn penderfynu mynd i ryfel neu beidio, yn ôl Plaid Cymru.
Dywedodd y blaid y dylai Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad gael dweud eu dweud er mwyn osgoi "anffodion sydd wedi methu'n aruthrol".
Ond dyw amddiffyn ddim yn bwnc sydd wedi'i ddatganoli, ac fe ddywedodd AS Ceidwadol y byddai ymgynghori pellach yn golygu risg i fywydau milwyr.
Cafodd pleidleisiau eu cynnal ymhlith ASau cyn anfon milwyr i Irac yn 2003, a chyn gwrthod cymryd camau milwrol yn Syria yn 2013.
Ond does dim gofyn cyfreithiol ar Lywodraeth y DU i ofyn am farn ASau nac ACau.
Sgil effeithiau
Yn dilyn y pleidleisiau hynny fe wnaeth rhai ddadlau fod cynsail wedi ei osod ble dylai ASau gael trafod anfon lluoedd arfog i ymladd ai peidio, oni bai ei bod hi'n argyfwng.
Ond eleni fe wnaeth y Prif Weinidog Theresa May anfon yr awyrlu i ymuno â'r UDA a Ffrainc mewn cyrchoedd awyr heb ofyn i ASau o flaen llaw.
Mae Aelodau Cynulliad yn gallu cynnal dadleuon ar ryfeloedd a pholisi tramor, ond does ganddyn nhw ddim grym cyfreithiol i orfodi Llywodraeth y DU i wrando.
Yng nghynhadledd ddiwethaf Plaid Cymru fe wnaeth aelodau bleidleisio o blaid cynnig oedd yn dweud y dylai'r ddau dŷ yn San Steffan, yn ogystal â'r Cynulliad, orfod cydsynio cyn unrhyw gamau milwrol.
Wrth siarad â rhaglen Sunday Politics Wales dywedodd Jonathan Edwards AS: "Pan mae'n dod at sgil effeithiau rhyfel, pan mae milwyr yn aml yn dychwelyd gydag anafiadau corfforol ac iechyd meddwl difrifol, trethdalwyr Cymru sy'n gyfrifol am dalu costau'r driniaeth yna drwy ein gwasanaeth iechyd.
"O ystyried hynny dwi'n meddwl ei bod hi'n synhwyrol gofyn na ddylai unrhyw lywodraeth Brydeinig anfon ein bechgyn ifanc i ryfel heb gydsyniad ein Cynulliad Cenedlaethol."
Cytundebau rhyngwladol
Dywedodd yr AS Ceidwadol Chris Davies fodd bynnag y dylai penderfyniadau ar amddiffyn gael eu gwneud yn San Steffan.
"Mae'n rhaid i ni fynd drwy sawl siambr drafod, rhoi mwy a mwy o ffeithiau i bobl fydd yn gwrando ar y cyfryngau cymdeithasol, fydd yn gwrando ar y teledu, ac mae hyn yn peri risg i'n milwyr," meddai.
Dywedodd un AC Llafur, Mick Antoniw, y byddai rhoi pleidlais i Aelodau Cynulliad yn "codi pob math o gymhlethdodau" pan oedd hi'n dod at gytundebau rhyngwladol.
"Petai Rwsia yn ymosod ar Estonia, rydyn ni'n rhan o NATO, mae gennym ni ymrwymiad awtomatig i amddiffyn Estonia petai hynny'n digwydd," meddai Mr Antoniw, sy'n gyn-gynghorydd cyfreithiol i Lywodraeth Cymru.
"Ydyn ni'n awgrymu yn yr achos yna y dylai Cymru gael feto dros hynny, neu y byddai oedi yn yr ymateb?"
Bydd Sunday Politics Wales yn cael ei darlledu ar BBC One Wales am 11:00 ddydd Sul, 4 Tachwedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2014